Mae’r Aelod o Senedd Cymru dros Lanelli, Lee Waters, wedi bod yn cynhyrchu podlediad sy’n trafod ei brofiad yng nghoridorau grym.
Ac mae gan y cyn-Ddirprwy Weinidog bethau difyr a dadlennol i’w dweud am y gwleidyddion a’r system lawr yn y Bae…
Hyd yn oed i anorac gwleidyddol mae’r hyn sydd yn digwydd tu ôl i waliau Llywodraeth Cymru yn rhyw gymaint o gyfrinach.