“Mae angen i fwy o bobol gymhwyso i fod yn ymarferwyr gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg,” yw cri Gwenllïan Lansdown Davies, Prif Weithredwr y Mudiad Meithrin sy’n darparu gofal plant ac addysg gynnar mewn cannoedd o leoliadau ledled y wlad.

“Ac mae gennym gynllun prentisiaeth rŵan ar y cyd efo’r Urdd,” eglura gan ychwanegu fod y Mudiad yn gobeithio gweld rhagor o fuddsoddiad yn y maes.