Dim ond 11% o’r gweithlu nyrsio sy’n ddynion.

Ac er bod cynnydd wedi bod yn y nifer sy’n dewis gyrfa yn y maes dros y blynyddoedd diwethaf, maen nhw yn parhau yn bethau prin.

Er mwyn cael mwy o nyrsys gwrywaidd, mae Prifysgol Bangor wedi dechrau ymgyrch #NyrsYnGyntafPB fis yma, gyda’r bwriad o herio’r ystrydeb mai gwaith dynes yw nyrsio, annog sgyrsiau am y mater, a hyrwyddo nyrsio fel dewis gyrfa i bawb.