Mae Sais ifanc yn gwneud ei fywoliaeth yn cerdded trwy afonydd a thros sawl ffens weiren bigog yng Nghymru, yn ffilmio’i hun yn wrth fynd yn ei flaen mewn llinell hollol syth.

Mae miliynau wedi gwylio fideos Tom  Davies, 29, ar y We wrth iddo geisio cadw at ymlwybro’r wlad heb wyro i osgoi rhwystrau.

‘GeoWizard’ yw enw ei sianel ar wefan YouTube, a’r llynedd mi roddodd y gorau i’w swydd yn gyrru faniau er mwyn creu ei magnum opus, Mission Across Wales.