Ydach chi erioed wedi cael Haf prysurach, o ran rhyddhau caneuon?!

Naddo! Jest digwydd bod, mae popeth yn dod allan yr un pryd. Ddaeth yr albym When I Wake Up allan ddechrau’r mis, ond dw i wedi bod yn rhyddhau senglau oddi arni dros y flwyddyn ddiwetha’.

O’r blaen, roedd lot o fy nghaneuon yn fwy acwstig, laid back, ond mae’r stwff newydd yn fwy folk-rock efo digon o fynd.