Mae gan y gantores a’r gyflwynwraig boblogaidd lyfr allan ar gyfer y Dolig am y gyfres Sgwrs dan y lloer.

Ac yn y flwyddyn newydd mi fydd hi yn cyflwyno sioe-canfod-cariad newydd o’r enw Amour a Mynydd sydd wedi ei ffilmio yn yr Alpau yn Ffrainc, gydag wyth o bobol yn mynd ar ddêts yn yr eira.