Ynghanol yr holl alwadau am arian i ddelio ag effeithiau’r pandemig, roedd Comisiynydd y Gymraeg yn iawn i alw am ystyriaeth arbennig i’r iaith a’i diwylliant.

Does dim amheuaeth fod gweithgareddau creadigol a chymdeithasol yn diodde’ gymaint â dim oherwydd y cyfnod clo; ar y cyfan, maen nhw’n dibynnu ar gael tyrfaoedd at ei gilydd.