Rhaid deddfu er mwyn “stopio’r llanw” a gwarchod enwau lleoedd Cymru.

Dyna farn Angharad Fychan, Ysgrifennydd Cymdeithas Enwau Cymru.

Mae’r mater wedi bod yn dipyn o bwnc llosg dros yr wythnosau diwetha’, gyda nifer o Gymry’n lleisio’u pryderon bod enwau hanesyddol Cymraeg yn diflannu.

Fis diwetha’ wnaeth y Welsh National Party (plaid yr AS Neil McEvoy) alw am godi £10,000 yn bris am newid enw tŷ yng Ngwynedd.