Mae ofnau yng nghefn gwlad bod her gyfreithiol am arwain at atal pobol rhag saethu adar gwyllt.

Dadl rhai trigolion yw bod angen cadw’r hawliau saethu yma er mwyn amddiffyn cnydau ac ŵyn rhag brain.

Hefyd maen nhw yn pwysleisio fod y diwydiant saethu werth £70 miliwn i economi Cymru.

Ar hyn o bryd mae tri o Saeson sy’n ymgyrchu dros hawliau bywyd gwyllt, yn paratoi her gyfreithiol yn erbyn Cyfoeth Naturiol Cymru [CNC] yn yr hydref.