Mae Alex Horton, wicedwr ifanc disglair tîm criced Morgannwg, wedi’i gynnwys yng ngharfan Llewod Ifainc Lloegr ar gyfer y daith i Sri Lanca.

Eisoes mae Alex Horton wedi chwarae i ail dîm Morgannwg ac i dîm Siroedd Llai Cymru, ac wedi ennill ysgoloriaeth Safon Uwch yn ysgol fonedd St. Edward’s yn Rhydychen. Ac fe fu’n chwarae i dîm cyntaf Trecelyn drwy gydol yr adeg honno.

Fis Gorffennaf y llynedd, llofnododd y wicedwr, oedd yn 17 oed ar y pryd, gytundeb pum mlynedd gyda’r sir, a hynny ar ôl i Hampshire geisio ei ddenu oddi yno.

Mae taith Llewod Ifainc Lloegr yn rhan o’r paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd dan 19 yn y Caribî fis Ionawr.

Bydd y daith yn Sri Lanca yn dechrau ar Dachwedd 22, a bydd pum gêm undydd 50 pelawd yn y gyfres fydd yn dechrau ar Dachwedd 30.

Bydd yr holl gemau’n cael eu cynnal o dan amodau Covid-ddiogel yn Colombo.

 

Y cricedwr ifanc “all fynd yn bell”

Alun Rhys Chivers

Wicedwr 16 oed wedi denu sylw Hampshire, cyn llofnodi cytundeb pum mlynedd gyda Morgannwg