Mae’r Uchel Lys wedi clywed bod Barry Bennell, yr hyfforddwr pêl-droed sydd wedi’i garcharu am droseddau rhyw, yn gwisgo cit Clwb Pêl-droed Manchester City wrth arwain sesiynau yng ngwersyll Butlins ym Mhwllheli bedwar degawd yn ôl.

Ac wrth hysbysebu’r gwersyll, roedd Bennell yn cael ei ddisgrifio fel un o hyfforddwyr ieuenctid y clwb.

Clywodd y llys ei fod e wedi arwain sesiynau yn y gwersyll yng ngogledd Cymru yn ystod hafau 1978, 1979 ac, o bosib, yn 1980.

Dywedodd y dyn fod ei fab yn 14 oed yn 1980, a’i fod e wedi cymryd rhan mewn cwrs hyfforddi yn y gwersyll ddiwedd y 1970au.

Dywedodd y mab rai blynyddoedd yn ôl fod Bennell wedi ei gamdrin e yn ystod y gwersyll.

Gwrandawiad

Mae wyth dyn, sydd bellach yn eu 40au a’u 50au, yn hawlio iawndal gan Glwb Pêl-droed Manchester City, gan ddweud bod Barry Bennell wedi eu camdrin nhw yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Maen nhw’n honni bod Bennell yn sgowt gyda’r clwb ar y pryd.

Clywodd y llys fod Bennell wedi camdrin yr wyth yn rhywiol ac yn emosiynol rhwng 1979 a 1985, a’u bod nhw wedi dioddef anafiadau seicolegol o ganlyniad.

Mae chwech ohonyn nhw hefyd yn hawlio iawndal am gyflog oedd wedi’i golli ar hyd y blynyddoedd.

Ond mae Manchester City yn gwadu’r holl honiadau, gan ddweud nad oedd e’n sgowt i’r clwb rhwng 1979 a 1985, er ei fod e’n gweithio yn yr ardal.

Dywedodd tad y bachgen fod Bennell wedi gwahodd chwaraewyr Manchester City i gyflwyno tlysau i’r bechgyn yn ystod y gwersyll fel ffordd o ddangos bod ganddo fe gysylltiadau arwyddocaol.

Does dim modd enwi’r dyn sy’n rhoi tystiolaeth, meddai’r barnwr, sydd wedi clywed bod Bennell wedi’i garcharu am 34 o flynyddoedd am droseddau rhyw yn erbyn bechgyn ar bum achlysur gwahanol – pedwar yn y Deyrnas Unedig ac un yn yr Unol Daleithiau.

Mae disgwyl i Bennell roi tystiolaeth trwy gyswllt fideo o’r carchar yn ddiweddarach yn y mis.