Mae cadeirydd Clwb Criced Swydd Efrog, Roger Hutton, wedi ymddiswyddo, ar ôl i honiadau’r chwaraewr Azeem Rafiq am hiliaeth yn y clwb ddod i sylw Aelodau Seneddol.

Roedd Roger Hutton wedi cael ei alw i ymddangos o flaen Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan er mwyn esbonio’r modd y gwnaeth y clwb ddelio â honiadau Azeem Rafiq a’r adroddiad annibynnol ar y mater.

Erbyn hyn, mae e wedi camu lawr gan gyfeirio at ei rwystredigaeth tuag at aelodau’r bwrdd ac uwch-reolwyr.

“Heddiw dw i’n cyhoeddi fy ymddiswyddiad fel cadeirydd Clwb Criced Swydd Efrog, gan ddod i rym yn syth.

“Mae yna amharodrwydd cyson gan Brif aelodau’r Bwrdd ac uwch-reolwyr yn y clwb i ymddiheuro, a derbyn bod hiliaeth yno, ac edrych ymlaen.

“Am dipyn o fy amser yn y Clwb, fe wnes i brofi diwylliant sy’n gwrthod newid na herio.”

Datblygiadau

Fe wnaeth Azeem Rafiq siarad am ei brofiadau a’r “hiliaeth sefydliadol” yn y clwb am y tro cyntaf dros flwyddyn yn ôl, ond mae datblygiadau diweddar wedi denu mwy o sylw at yr achos.

Daeth ymchwiliad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Glwb Criced Swydd Efrog i’r canlyniad bod Azeem Rafiq wedi dioddef “bwlio ac aflonyddu hiliol” wrth chwarae i’r clwb.

Mae manylion honedig yr adroddiad wedi’u rhyddhau’r wythnos hon, ac mae’n cynnwys cyfaddefiad gan un chwaraewr ei fod wedi defnyddio iaith hiliol ac annerbyniol dro ar ôl tro wrth gyfeirio at Azeem Rafiq, ond penderfynodd yr adroddiad bod hynny’n digwydd “mewn ysbryd sgwrs gyfeillgar”.

Arweiniodd hynny at Aelodau Seneddol, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Iechyd Sajid Javid, yn dweud nad yw iaith o’r fath yn “banter”, ac fe wnaeth llefarydd ar ran Boris Johnson annog Bwrdd Criced Cymru a Lloegr i “ymchwilio i hyn yn fanwl ac yn brydlon” a “gweithredu lle bo angen”.

Mae disgwyl i Azeem Rafiq a Roger Hutton ymddangos o flaen Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon San Steffan  ar 16 Tachwedd.

Azeem Rafiq

Y cricedwr Azeem Rafiq i roi tystiolaeth am “hiliaeth endemig” Clwb Swydd Efrog gerbron pwyllgor seneddol

Cadeirydd Pwyllgor Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau, a Chwaraeon San Steffan yn mynnu bod aelodau Bwrdd Clwb Criced Swydd Efrog yn ymddiswyddo
Azeem Rafiq

Cricedwr yn cyfaddef iddo ddefnyddio iaith hiliol

Gary Ballance, serch hynny, yn dweud ei fod e ac Azeem Rafiq ill dau wedi defnyddio iaith annerbyniol yn ystod eu cyfeillgarwch agos