Bydd yr wythwr amryddawn Taulupe Faletau yn dychwelyd i Gymru i chwarae rygbi, wedi pum mlynedd yng nghrys Caerfaddon yn Uwchgynghrair Rygbi Lloegr.
Wedi sïon lu, mae Gleision Caerdydd wedi cadarnhau eu bod wedi arwyddo’r blaenwr 30 oed sydd wedi serennu i Gymru a’r Llewod.
Ers ennill ei gap cyntaf tros ei wlad yn 2011 mae Faletau wedi mynd o nerth i nerth gan ennill 86 o gapiau tros Gymru a chwarae pump o weithiau ar dair taith wahanol gyda’r Llewod.
Bydd yr wythwr yn ymuno gyda’r Gleision ar gyfer y tymor nesaf.
Cyn symud i Gaerfaddon, bu yn chwarae i’r Dreigiau.
“Rydw i wedi mwynhau fy mhum mlynedd gyda Chaerfaddon ac rwy’n gobeithio gorffen y tymor presennol yn gryf,” meddai.
“Yna rwy’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Gymru i chwarae fy rygbi, ac rwy’n gwybod y bydd yn teimlo yn dda i fod adref.”
Faletau yw’r ail flaenwr rhyngwladol i ymrwymo i ymuno â’r Gleision ar gyfer y tymor nesaf, gyda Thomas Young hefyd yn bwriadu symud i glwb Wasps i’r brifddinas.
O ran y Gleision, fe fydd y ddau chwaraewr yma yn gwella safon eu blaenwyr.
Ac o ran Faletau, mi fydd dychwelyd i Gymru yn golygu y bydd modd i’w glwb newydd ei warchod yn well rhag anafiadau, fel bod ganddo’r cyfle gorau bosib i chwarae yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn 2023.