Mae prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, Ioan Cunningham, wedi enwi tîm profiadol i chwarae Japan dros y penwythnos.
Bydd y gêm yn cael ei chwarae ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd ar ddydd Sul, 7 Tachwedd.
Bachwr Saracens, Kat Evans, yw’r unig chwaraewr heb gap yn y 15 sy’n dechrau’r gêm, tra bydd Keira Bevan ac Elinor Snowsill yn ffurfio partneriaeth yn safleoedd yr haneri.
Dyma fydd gêm ryngwladol gyntaf Snowsill, sydd â 58 cap i Gymru, ers chwarae yn erbyn Lloegr ym Mawrth 2020.
Bydd darllediad byw o’r gêm brynhawn Sul ar S4C, gyda’r gic gyntaf am bump.
Dewis anodd
Roedd Ioan Cunningham yn dweud bod dipyn o grafu pen wedi bod wrth ddewis y tîm.
“Fel hyfforddwyr, roedd y broses o ddewis chwaraewyr yn galed, gyda’r gystadleuaeth am lefydd yn gryf iawn,” meddai.
“Roedd y garfan i gyd wedi perfformio yn erbyn y Crysau Duon, ond roedden i’n teimlo fod y grŵp hwn am roi’r cyfle gorau inni gael perfformiad a chanlyniad da.
“Rydyn ni hefyd eisiau gweld cyfuniadau yn enwedig gyda Richard Whiffin a fi yn ein swyddi newydd.”
Profiad
Dywedodd Cunningham fod y tîm yn brofiadol iawn, heblaw am Kat Evans, sy’n gwneud ei hymddangosiad cyntaf.
“Mae Kat yn llwyr haeddu dechrau,” meddai.
“Mae hi’n gweithio’n galed ac yn bresenoldeb corfforol ychwanegol yn y pac.
“Heblaw am Kat, mae asgwrn cefn y tîm yn weddol brofiadol, gyda llawer o arweinwyr sy’n ennill profiad ar, ac oddi ar y cae.
“Mae Elinor a Keira yn chwarae’n dda gyda’i gilydd ym Mryste, ac rydyn ni’n gyffrous gyda’r opsiynau bydd y tri yn y cefn (Jasmine Joyce, Lisa Neumann, a Courtney Keight) yn dod â nhw.
“Mae yna hyblygrwydd yn ein hopsiynau yn y cefn, gyda Georgia (Evans) a Siwan (Lillicrap) hefyd yn gallu chwarae yn yr ail reng.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau ein bod ni’n gwneud y pethau sylfaenol yn iawn, ac wedyn gallwn ryddhau’r bêl yn llydan i chwarae rygbi ymosodol.
“Rydyn ni gyd yn edrych ymlaen at gael torf yn ôl ym Mharc yr Arfau a rhoi perfformiad i’w diddanu.”
Y tîm
15 Cyntaf: 15. Jasmine Joyce, 14. Lisa Neumann, 13. Hannah Jones, 12. Kerin Lake, 11. Courtney Keight, 10. Elinor Snowsill, 9. Keira Bevan; 1. Caryl Thomas, 2. Kat Evans, 3. Donna Rose, 4. Natalia John, 5. Gwen Crabb, 6. Georgia Evans, 7. Bethan Lewis, 8. Siwan Lillicrap (Capten).
Eilyddion: 16. Carys Phillips, 17. Cara Hope, 18. Cerys Hale, 19. Alex Callender, 20. Alisha Butchers, 21. Ffion Lewis, 22. Robyn Wilkins, 23. Megan Webb.