Bydd Cymru yn llygadu eu pumed buddugoliaeth o’r bron yn erbyn pencampwyr y byd De Affrica yn Stadiwm Principality Caerdydd heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 6).

Bydd tîm Wayne Pivac yn gobeithio am gêm lawer mwy tynn y penwythnos hwn, ar ôl colli o 54-16 yn erbyn Seland Newydd yng ngêm brawf agoriadol Cyfres yr Hydref.

Fe gyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru hefyd yr wythnos hon y bydd y capten Alun Wyn Jones a’r blaenwyr Ross Moriarty a Taulupe Faletau, yn absennol am rai misoedd.

Mae hynny’n golygu y bydd Jonathan Davies yn gapten, a bydd y blaenasgellwr Ellis Jenkins yn dychwelyd i dîm Cymru am y tro cyntaf ers y fuddugoliaeth dros Dde Affrica yn 2018.

Dim carreg filltir i Alun Wyn Jones

Yn dilyn yr anaf a gafodd yn erbyn Seland Newydd, bydd Alun Wyn Jones yn colli gweddill gemau’r Hydref a’r Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.

Alun Wyn Jones

Roedd capten Cymru i fod i ennill cap rhif 150 i Gymru dros y penwythnos, ond bydd rhaid iddo ddisgwyl peth amser i wneud hynny bellach.

Prin iawn y mae safon y gŵr 36 oed wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf, a bydd ei absenoldeb yn siŵr o adael ei ôl ar Gymru, gyda Jonathan Davies yn arwain y tîm yn ei le.

Jenkins yn dychwelyd

Cyfres yr Hydref 2018 oedd y tro diwethaf i’r blaenasgellwr Ellis Jenkins chwarae dros Gymru, a hynny yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd.

Ar ôl cael anaf creulon i’w ben-glin yn y gêm honno, bydd yn gobeithio am gêm ychydig yn fwy ffodus y tro hwn, er iddo fod yn seren y gêm yn 2018.

Ellis Jenkins

Rhoddodd yr anaf hwnnw derfyn ar ei obeithion o chwarae yng Nghwpan y Byd 2019, a chafodd ei orfodi allan o’r gêm am 26 mis.

Fe ddychwelodd i’r Gleision yn gynharach eleni, ac fe gafodd ei enwi yn nhîm Cymru unwaith eto ar gyfer Cyfres yr Hydref.

Bok ar fainc Cymru

Un peth annisgwyl o Gyfres yr Hydref hyd yn hyn yw’r penderfyniad i alw bachwr Ulster, Bradley Roberts, i’r garfan.

Roedd o a Kirby Myhill wedi eu galw yn dilyn anafiadau i Ken Owens ac Elliot Dee.

Mae’r gŵr 25 oed, a gafodd ei eni a’i fagu yn Ne Affrica, yn gymwys i Gymru drwy ei fam-gu, a gafodd ei geni yn Llandysul.

Dim ond y llynedd y gwnaeth Roberts ei ymddangosiad cyntaf i Ulster, ond mae Pivac yn ei ystyried yn chwaraewr addawol sydd â “llawer o sgiliau” ac “ymennydd amddiffynnol da”.

Y timau

Tîm Cymru: Johnny McNicholl; Louis Rees-Zammit, Jonathan Davies (capten), Nick Tompkins, Josh Adams; Dan Biggar, Tomos Williams; Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Adam Beard, Ellis Jenkins, Taine Basham, Aaron Wainwright.

Eilyddion: Bradley Roberts, Wyn Jones, WillGriff John, Ben Carter, Seb Davies, Gareth Davies, Gareth Anscombe, Liam Williams.

Tîm De Affrica: Damian Willemse, Jesse Kriel, Lukhanyo Am, Damian de Allende, Makazole Mapimpi, Handre Pollard, Herschel Jantjies; Ox Nche, Bongi Mbonambi, Trevor Nyakane, Eben Etzebeth, Lood de Jager, Siya Kolisi (capten), Kwagga Smith, Duane Vermeulen

Eilyddion: Malcolm Marx, Steven Kitshoff, Vincent Koch, Franco Mostert, Jasper Wiese, Cobus Reinach, Elton Jantjies, Francois Steyn