Mae dyn wedi dweud wrth lys ei fod e wedi clywed bachgen yn gweiddi “Gadewch lonydd i fi” wrth iddo gael ei gamdrin gan yr hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell ym Mhwllheli.

Dywedodd y dyn wrth y llys fod hyn wedi digwydd ddegawdau yn ôl, a’i fod yntau hefyd wedi cael ei gamdrin gan Bennell, sy’n 67 oed erbyn hyn ac sydd eisoes wedi’i garcharu am droseddau rhyw yn y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau.

Yn yr Uchel Lys yn Llundain, mae wyth o ddynion, sydd bellach yn eu 40au a’u 50au, yn hawlio iawndal gan Glwb Pêl-droed Manchester City, gan honni bod Bennell yn gweithio iddyn nhw ar y pryd.

Mae’r llys eisoes wedi clywed fod Bennell yn gwisgo cit y clwb yn ystod gwersyll pêl-droed i fechgyn yn Butlins Pwllheli, ond mae’r clwb yn gwadu ei fod e’n gweithio fel sgowt iddyn nhw ar y pryd.

Honiadau

Dywedodd y dyn wrth roi tystiolaeth ei fod yn cofio aros yn yr un ystafell â Bennell ym Mhwllheli.

Mae’n honni iddo gael ei ddefnyddio fel dull o guddio’r troseddau yn erbyn y bachgen arall, a’i fod e’n aros mewn ystafell arall ar adeg y troseddau honedig.

“Y cyfan allwn i ei glywed oedd llefain am gymorth,” meddai.

“Beth ydych chi’n ei wneud Barry? Gadewch lonydd i fi Barry.”

Ond ychwanegodd fod Bennell “yn un o’r hyfforddwyr gorau” ac yn “un o’r bobol fwyaf carismataidd i mi eu cyfarfod”.

Mae’r llys wedi clywed bod yr wyth dyn sy’n hawlio iawndal wedi cael eu camdrin yn rhywiol ac yn emosiynol gan Bennell rhwng 1979 a 1985, ac maen nhw’n hawlio iawndal am anafiadau seicolegol.

Mae chwech ohonyn nhw hefyd yn hawlio am gyflog sydd wedi’i golli dros y blynyddoedd.

Mae’r gwrandawiad yn parhau.