Mae rhagor o honiadau yn erbyn Clwb Criced Swydd Efrog, ddiwrnod ar ôl i’r cadeirydd Roger Hutton gamu o’r neilltu yn sgil honiadau o hiliaeth sefydliadol dros gyfnod o rai degawdau.
Yr Arglwydd Kamlesh Patel yw ei olynydd, ac fe fydd ganddo fe’r cyfrifoldeb o arwain “newidiadau angenrheidiol” yn niwylliant y clwb, sy’n wynebu llu o honiadau o hiliaeth yn erbyn Azeem Rafiq a chwaraewr dienw sydd hefyd o dras Asiaidd.
Mae Gary Ballance, cyn-fatiwr Lloegr, yn dweud iddo ddefnyddio iaith hiliol wrth siarad â Rafiq, un o’i ffrindiau pennaf.
Mae chwaraewr Asiaidd arall yn honni bod cyd-chwaraewr wedi wrineiddio drosto fe, a bod chwaraewr wedi dweud wrtho fod chwaraewyr wedi cael rhyw â dynes ar ei mislif ar fat gweddïo Mwslimaidd.
Mae cyn-chwaraewr arall, y sylwebydd Michael Vaughan, hefyd wedi’i gyhuddo o ddefnyddio iaith hiliol yn ystod ei gyfnod yn chwarae i’r clwb, gan ddweud bod “gormod” o chwaraewyr o dras Asiaidd yn y clwb.
Mae Andrew Gale, y prif hyfforddwr a chyn-gapten y clwb, hefyd dan y lach am ddefnyddio gair gwrth-Semitaidd ar Twitter, ond mae’n dweud nad oedd e’n ymwybodol o’r ystyr.
Mae Hutton yn annog y prif weithredwr Mark Arthur a’r cyfarwyddwr criced Martyn Moxon i ymddiswyddo yn sgil yr helynt.
Un o’r tasgau cyntaf fydd gan y cadeirydd newydd yw ymdopi â’r llu o noddwyr sydd wedi tynnu eu harian yn ôl o’r clwb – mae’r rhain yn cynnwys cwmnïau mawr fel Nike, Emerald Publishing, Tetley’s a Yorkshire Tea.
Mae’r honiadau bellach yn destun gwrandawiad gan bwyllgor seneddol yn San Steffan, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi mynegi pryder am y sefyllfa ac wedi gofyn am eglurder rhag ofn bod troseddau cyfreithiol wedi’u cyflawni.
Bydd yr Arglwydd Patel yn cynnal cynhadledd i’r wasg ddydd Llun (Tachwedd 8).