Bydd cadeirydd Clwb Criced Swydd Efrog yn cael ei alw i San Steffan i ateb cwestiynau’r Pwyllgor Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch ffrae hiliaeth.

Mae’r clwb dan y lach ynghylch y ffordd maen nhw wedi mynd ati i ymdrin â honiadau gan y cyn-chwaraewr Azeem Rafiq.

Fe wnaeth Rafiq, fu’n chwarae i’r sir mewn dau gyfnod rhwng 2008 a 2018, honiadau o hiliaeth sefydliadol yn y clwb dros flwyddyn yn ôl.

Daeth ymchwiliad mewnol i’r casgliad ei fod e wedi dioddef “aflonyddu hiliol a bwlio” ac er iddyn nhw ymddiheuro, fydd neb yn wynebu camau disgyblu.

Mae gwefan ESPNcricinfo wedi cyhoeddi manylion yr adroddiad, gan gynnwys cyfaddefiad gan un chwaraewr iddo ddefnyddio ieithwedd hiliol droeon wrth gyfeirio at Rafiq, ond fod hynny wrth “dynnu coes”.

‘Pryder eithriadol’

Yn ôl Julian Knight, cadeirydd y pwyllgor seneddol, mae’r mater yn destun “pryder eithriadol” ac mae’n “amlwg fod gan Glwb Criced Swydd Efrog gwestiynau i’w hateb”.

Mae’n galw am “lawer iawn mwy o dryloywder” gan y clwb, ac mae’n dweud bod y pwyllgor am gael “esboniad llawer iawn mwy llawn” gan y cadeirydd Roger Hutton.

Mae Clwb Criced Swydd Efrog wedi gwrthod cyhoeddi’r adroddiad llawn am resymau cyfreithiol.

Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn cynnal ymchwiliad i’r ddogfen, ond maen nhw wedi atal Joe Root, capten Lloegr, rhag ateb cwestiynau yn y cyfamser.

Mae Alex Sobel, Aelod Seneddol Llafur Gogledd-orllewin Leeds, yn dweud nad yw’n fodlon anwybyddu’r mater, a bod y sefyllfa’n “annerbyniol”.

Mae e wedi trefnu cyfarfod ag Azeem Rafiq, meddai.

Mae mudiad HOPE Not Hate wedi beirniadu’r sylwadau a gafodd eu gwneud i Rafiq, gan wfftio’r awgrym mai “tynnu coes” oedden nhw.

Mae lle i gredu hefyd fod noddwyr y clwb yn ystyried eu perthynas â nhw yn sgil yr helynt.

Azeem Rafiq

Dim camau disgyblu gan sir griced yn dilyn cydnabyddiaeth o hiliaeth

Mae Swydd Efrog yn derbyn bod Azeem Rafiq wedi cael ei “aflonyddu’n hiliol a’i fwlio”

Cyfreithwyr am gynnal ymchwiliad i honiadau o “hilliaeth sefydliadol” Clwb Criced Swydd Efrog

Azeem Rafiq, y cyn-chwaraewr Mwslimaidd, yn dweud iddo ddod yn agos at ladd ei hun yn sgil sylwadau cyd-chwaraewyr a ffigurau blaenllaw eraill y sir