Mae Sepp Blatter a Michel Platini, dau o gyn-swyddogion y corff llywodraethu pêl-droed FIFA, wedi cael eu cyhuddo o dwyll ariannol a throseddau eraill.

Daw hyn yn dilyn ymchwiliad sydd wedi para chwe blynedd yn y Swistir i daliad o $2m.

Fe fydd Blatter, 85, a Platini, 65, yn mynd gerbron llys dros y misoedd nesaf yn Bellinzona.

Mae erlynwyr yn dweud bod y taliad dan sylw “wedi niweidio asedau FIFA ac wedi cyfoethogi Platini yn anghyfreithlon”.

Yn sgil yr helynt, daeth cyfnod Blatter yn llywydd FIFA i ben yn gynnar a doedd dim gobaith wedyn y byddai Platini yn ei olynu.

Cefndir

Fe ddaeth yr helynt i’r amlwg fis Ionawr 2011 pan wnaeth Michel Platini gais ysgrifenedig i FIFA i gael ei ôl-dalu am ei waith fel ymgynghorydd arlywyddol i Sepp Blatter yn ei gyfnod cyntaf wrth y llyw rhwng 1998 a 2002.

Fe wnaeth Blatter awdurdodi’r taliad fel y byddai Platini yn derbyn yr arian o fewn ychydig wythnosau, a hynny wrth iddo ymgyrchu i gael ei ailethol yn erbyn Mohamed bin Hammam o Qatar.

Mae Blatter a Platini yn gwadu eu bod nhw wedi gwneud unrhyw beth o’i le, ac maen nhw wedi cyfeirio at gytundeb ar lafar dros ugain mlynedd yn ôl i’r taliad gael ei wneud.

Mae Blatter wedi’i gyhuddo o dwyll, camreolaeth, camddefnyddio arian a ffugio dogfen.

Mae Platini wedi’i gyhuddo o dwyll, camddefnyddio arian, twyll a bod yn rhan o gamreolaeth ariannol Blatter.

Dim ond y llynedd y dechreuodd yr ymchwiliad i Platini, gyda’r ddau yn wynebu’r cyhuddiadau mwyaf difrifol fisoedd yn unig ar ôl hynny.

Dechreuodd yr ymchwiliad i Blatter yn 2015 cyn i’r heddlu chwilio swyddfeydd FIFA yn Zurich ar ddiwrnod pan oedd Blatter a Platini mewn cyfarfod pwyllgor.