Mae disgwyl i Liam Williams ac Ellis Jenkins fod yn holliach i gael eu hystyried ar gyfer gêm rygbi Cymru yn erbyn De Affrica yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn (Tachwedd 6).
Ond mae Ross Moriarty a’r capten Alun Wyn Jones, sydd ag anafiadau i’w hysgwyddau, allan, ynghyd â Taulupe Faletau.
Bu’n rhaid i Jones a Moriarty adael y cae yn ystod y golled o 54-16 yn erbyn Seland Newydd ddydd Sadwrn (Hydref 30), ac mae’r ddau wedi cael sgan er mwyn asesu’r anafiadau.
Roedd pryderon yn wreiddiol fod Jones wedi anafu’r ysgwydd oedd yn bygwth ei atal rhag arwain y Llewod yn Ne Affrica dros yr haf.
Mae Ken Owens (cefn) hefyd wedi’i anafu a dydy ei gyflwr e ddim yn gwbl hysbys ar hyn o bryd, tra bod Liam Williams (pendics) ac Ellis Jenkins (asen) yn gwella.
Pe bai’n holliach, gallai Jenkins gymryd ei le yn y rheng ôl gyda Taine Basham ac Aaron Wainwright.
Hwn fyddai cap cyntaf Jenkins ers anafu ei ben-glin yn erbyn De Affrica dair blynedd yn ôl.
Mae Cymru wedi curo De Affrica bedair gwaith yn olynol yng Nghaerdydd, ac maen nhw’n ddi-guro yn eu herbyn nhw yng Nghymru ers 2013.