Mae tîm rygbi’r gynghrair proffesiynol wedi cael ei sefydlu yng Nghernyw.
Er bod rygbi’r undeb yn boblogaidd yno, dyma’r tro cyntaf i dîm tri ar ddeg gael ei sefydlu yno ac fe fydd y tîm yn chwarae yn Pennrynn.
Bydd Clwb Rygbi’r Gynghrair Cernyw yn ymuno â’r Adran Gyntaf yn Lloegr, sef trydedd haen y gamp yn y Deyrnas Unedig.
Bydd y tymor newydd yn dechrau ym mis Mawrth.
Eric Perez, gŵr busnes o Ganada, sydd wedi sefydlu’r tîm sydd bellach wedi cael sêl bendith y Gynghrair.
Mae Perez yn adnabyddus fel sylfaenydd tîm Toronto Wolfpack, ac roedd disgwyl iddo sefydlu ail dîm yn Ottawa hefyd.
Fe brynodd e glwb Hemel a’i symud i Ottawa gyda’r bwriad o gael mynediad i’r Adran Gyntaf cyn i Covid-19 daro.
Ers hynny, mae e wedi troi ei sylw at gynghreiriau Lloegr, ac mae’n ystyried y clwb yng Nghernyw yn rhan o strategaeth hirdymor i ddenu twristiaid i’r ardal ac i fynd yr holl ffordd i’r Super League.
“Mae symud i Gernyw yn ei gwneud hi’n gamp wirioneddol genedlaethol,” meddai.
Datblygu’r gêm yn lleol
Bydd y tîm newydd yn rhannu cae gyda Chlwb Rygbi’r Undeb Pennrynn.
Yn 2024, mae disgwyl i’r tîm symud i Stadiwm Cernyw, stadiwm arfaethedig yn Truru a bwriad Eric Perez yw rhoi’r cyfle i chwaraewyr lleol gael bod yn rhan o’r clwb.
“Dw i wedi bod yn gweithio ar hyn ers pedwar neu bum mis bellach ac os ydych chi’n palu’n ddwfn, mae Cernyw a gogledd Lloegr yn llefydd eithriadol o debyg, gyda’u diwylliant a’u hanes diwydiannol a’r pyllau a physgota,” meddai.
“Does dim system dosbarth [cymdeithasol] yno, mae’n lle arfaethedig ar gyfer rygbi’r gynghrair a dyma’r tro cyntaf i rywun fentro i’r de-orllewin.
“Mae cryn dipyn o ddoniau heb eu darganfod yno oherwydd mae pawb yng Nghernyw yn codi’r bêl hirgron i fyny.
“Mae gen i dri o nodau – un yw cerdded allan yn Old Trafford ar gyfer y Super League Grand Final, yr ail yw tyfu rygbi’r gynghrair ledled Cernyw a’r trydydd yw cael chwaraewyr o Gernyw yn chwarae dros Loegr.”
Mae Cernyw yn sicr o gael eu lle yn y gynghrair gan fod ganddyn nhw hen drwydded Hemel, ac maen nhw eisoes wedi cael sêl bendith Simon Johnson, cadeirydd y gynghrair.
Hyderus
Mae Eric Perez yn benderfynol fod ei fenter am lwyddo.
“Does dim campau haf proffesiynol yng Nghernyw, ac mae hynny’n ein gwneud ni’n gyrchfan i dwristiaid ac yn ein rhoi ni mewn sefyllfa unigryw,” meddai.
“Mae’r boblogaeth yn cynyddu dair gwaith yn fwy yng Nghernyw yn yr haf, o 600,000 i 1,800,000.
Dywed nad oedd yr un ardal arall yn Lloegr wedi cyflwyno cais tebyg i’w gais e yng Nghernyw, a bod Cernyw yn gallu llwyddo lle byddai ardaloedd eraill yn methu.
Mae’n dweud ei fod e am ddefnyddio’r arian sydd dros ben o brosiect Ottawa i ariannu’r tîm yng Nghernyw, a bod pobol o Gernyw ac o Ganada ymhlith y perchnogion.
Carfan ran amser fydd yn cynrychioli’r clwb i ddechrau, ac mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch yr hyfforddwr yr wythnos hon.
‘Gwneud rhywbeth arbennig’
Yn ôl Eric Perez, fe fydd modd tawelu ofnau’r rhai sy’n amau’r cynlluniau wrth iddo gyfarfod â chlybiau eraill y Bencampwriaeth a’r Adran Gyntaf fory (dydd Mercher, Tachwedd 3).
“Oherwydd bod timau Cumbria wedi ennill dyrchafiad a bod Newcastle eisoes yn yr Ail Adran, chwech awr yw’r daith hiraf,” meddai.
“I’r rhan fwyaf, pedair awr fydd hi.
“Gallwn ni wneud rhywbeth arbennig yma, prosiect tymor hir yw hwn.
“Dydych chi ddim yn mynd i’n gweld ni’n rhoi’r byd ar dân fel y gwnaethon ni gyda Toronto yn y flwyddyn gyntaf.
“Rydyn ni’n mynd i adeiladu hwn yn gynaladwy dros gyfnod o amser.
“Rydyn ni eisiau cyfoethogi gwead cyffredinol rygbi’r gynghrair yn Lloegr.
“Yn bersonol, hoffwn i fod yn y Super League ymhen saith i ddeng mlynedd.
“Mae llawer o weithgarwch ar lawr gwlad eisoes y byddwn ni’n ei gefnogi, ac mae’r Cornish Rebels am fod yn glwb sy’n bwydo i mewn.”