Mae teyrngedau wedi’u rhoi i gapten tîm rygbi ieuenctid Pen-y-graig yng Nghwm Rhondda.

Wrth gyhoeddi’r newyddion am ei farwolaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, dywed y clwb fod Logan Luker wedi marw’n sydyn, ac maen nhw wedi cydymdeimlo â’i deulu, ei ffrindiau a’r bechgyn sy’n chwarae i dîm ieuenctid y clwb.

“Roedd Logan yn chwaraewr ifanc dawnus iawn a roddodd ei galon i chwarae rygbi,” meddai teyrnged y clwb.

“Ar y cae, byddai Logan yn rhedeg at unrhyw beth oedd yn ei ffordd, ac fe fyddai’n codi yn barod i fynd ati eto.

“Fydd Clwb Rygbi Penygraig fyth yr un fath eto.”

Mae Clwb Rygbi Beddau, gwrthwynebwyr Penygraig yr wythnos ddiwethaf, wedi talu teyrnged i’w “ymddygiad bonheddig” ar y cae.

Mae llu o glybiau ar hyd a lled Cymru hefyd wedi talu teyrnged iddo, ynghyd â’r cyn-ddyfarnwr rhyngwladol Nigel Owens.

Mae tudalen Go Fund Me sydd wedi’i sefydlu i helpu’r teulu bellach wedi codi £1,850.

“Mae gan rygbi elyniaethau lleol ond mae’n creu’r cysylltiadau teuluol mwyaf y gall pobol ond gobeithio eu cael,” meddai’r clwb ar eu tudalen Facebook.

“Cadwch lygad ar bobol, byddwch yn garedig a pheidiwch byth â bod ofn siarad.”