Bydd capten Cymru Alun Wyn Jones yn methu gweddill gemau Cyfres yr Hydref oherwydd anaf i’w ysgwydd.

Fe gafodd y clo’r anaf ychydig cyn hanner amser yn y golled yn erbyn Seland Newydd dros y penwythnos.

Bydd y blaenasgellwr Ross Moriarty hefyd yn absennol yng ngweddill y gemau prawf, hefyd ag anaf i’w ysgwydd, a gafodd ei achosi gan drawiad anghyfreithlon oddi wrth dau o chwaraewyr y Crysau Duon.

Dywedodd Undeb Rygbi Cymru y byddai’r chwaraewyr yn wynebu “cyfnod o ychydig fisoedd yn gwella,” sy’n golygu bod amheuaeth hefyd a fyddan nhw’n holliach ar gyfer y Chwe Gwlad y flwyddyn nesaf.

Fe wnaethon nhw hefyd gyhoeddi y byddai Taulupe Faletau ddim yn dychwelyd o anaf hirdymor mewn amser i’r gemau prawf olaf yn erbyn De Affrica, Ffiji ac Awstralia.

Mae gan yr wythwr, sy’n cael ei gysylltu â chlwb Chaerdydd flwyddyn nesaf, anaf i’w ffêr sydd wedi ei gadw allan o holl gemau Caerfaddon y tymor yma.

Dim carreg filltir

Mae’n debyg fod yr anaf a gafodd Alun Wyn Jones yn barhad o’r anaf a gafodd wrth chwarae dros y Llewod yn erbyn Japan yn yr haf.

Ar yr achlysur hwnnw, fe gafodd wellhad syfrdanol a olygodd ei fod yn holliach i chwarae’r gemau prawf yn erbyn De Affrica ar ddiwedd y gyfres.

Roedd disgwyl y byddai Jones, sy’n 36 oed, yn cyrraedd cap rhif 150 i Gymru yn erbyn y Springboks, ond bydd rhaid iddo ddisgwyl tan o leiaf y flwyddyn nesaf i gyrraedd y garreg filltir honno nawr.

Does neb wedi ymddangos mwy dros ei wlad nag Alun Wyn Jones, sydd â 12 cap i’r Llewod hefyd.

Newyddion tîm

Bydd Wayne Pivac yn dewis ei dîm ar gyfer y gêm yn erbyn De Affrica yn y dyddiau nesaf, gyda mwy o chwaraewyr ar gael iddo’r wythnos hon.

Mae Shane Lewis-Hughes a Rhys Davies wedi eu galw i’r garfan, tra bod Uilisi Halaholo yn dychwelyd o hunanynysu ar ôl cael prawf Covid-19 positif.

Bydd holl chwaraewyr y garfan sydd yn chwarae i glybiau Lloegr yn bresennol yr wythnos hon, gan fod y gêm o fewn y ffenestr rygbi rhyngwladol.

Mae disgwyl i Liam Williams ac Ellis Jenkins ddychwelyd o anafiadau, ond does dim diweddariad eto am gynnydd Ken Owens, sydd ag anaf i’w gefn.

Mae’r Springboks wedi dewis tîm cryf i chwarae Cymru, er gwaethaf absenoldebau Cheslin Kolbe, Faf de Klerk a Willie le Roux.