Mae’r rheoleiddiwr Ofcom wedi dod i’r casgliad fod S4C wedi torri rheolau darlledu mewn perthynas â darlledu Cân i Gymru.

‘Ti’ gan Sara Davies ddaeth i frig y gystadleuaeth ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni, ond fe fu nifer o broblemau wrth i wylwyr geisio bwrw eu pleidlais ar y noson.

Yn ôl Ofcom, roedd y broses bleidleisio’n “annheg” ac yn “sylweddol gamarweiniol” o ganlyniad i broblemau technegol gyda llinellau ffôn.

Pleidleisio

Fe fu nifer sylweddol o bobol yn cwyno ar y cyfryngau cymdeithasol nad oedden nhw wedi gallu bwrw eu pleidlais, ac yn ôl Ofcom fe wnaethon nhw dderbyn cyfanswm o ddeg o gwynion.

Yn ôl gwylwyr, llwyddodd rhai i bleidleisio mwy nag unwaith gan nad oedd eu pleidlais gyntaf wedi cael ei chofrestru’n gywir oherwydd y trafferthion.

“O ganlyniad, roedd Ofcom o’r farn bod y bleidlais ddarlledu wedi’i chynnal yn annheg a’i bod yn sylweddol gamarweiniol, gan dorri Rheolau 2.13 a 2.14,” meddai’r rheoleiddiwr.

“At hynny, cafodd cyfradd premiwm o 25c ei chodi ar gyfer pob galwad, ond doedd costau mynediad ddim wedi’u hegluro wrth wylwyr, gan dorri Rheol 9.30.”

Torri rheolau

Yn ôl Ofcom, cafodd y rheolau canlynol eu torri:

  • Rhaid cynnal cystadlaethau darlledu a phleidleisio yn deg
  • Rhaid i ddarlledwyr sicrhau nad yw gwylwyr a gwrandawyr yn cael eu camarwain yn sylweddol ynghylch unrhyw gystadleuaeth ddarlledu neu bleidleisio
  • Rhaid gwneud y gost i wylwyr am ddefnyddio gwasanaethau teleffoni nad ydyn nhw’n rhai daearyddol yn glir iddyn nhw, a’u darlledu fel y bo’n briodol.

Derbyn y penderfyniad

Mewn datganiad, dywed S4C eu bod nhw’n “derbyn penderfyniad Ofcom” a’u bod nhw wedi rhoi cynlluniau ar waith i ad-dalu costau i wylwyr, gan fod angen ffonio rhif ‘0900’ i fwrw pleidlais.

Ond maen nhw’n pwysleisio nad oedd y sefyllfa, ar ôl cyfri’r pleidleisiau eto, wedi effeithio ar y canlyniad terfynol.

Roedden nhw wedi ymddiheuro ar y pryd.

“Rydym eisoes wedi sefydlu cynllun i ad-dalu gwylwyr am gostau pleidleisio ychwanegol, ac wedi ymrwymo i gymryd camau i osgoi problemau tebyg i’r dyfodol,” meddai llefarydd.

“Rydym yn hyderus bod canlyniad y gystadleuaeth yn ddilys, ac yn edrych ymlaen at gynnal Cân i Gymru 2025 ar 28 Chwefror.”