Daeth cadarnhad na fydd y Gymraes Amy Dowden yn cymryd rhan yng ngweddill y gyfres Strictly Come Dancing eleni o ganlyniad i anaf.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r stiwdio yn ystod ymarferion dros y penwythnos, a hynny fel rhagofal ar ôl iddi gael ei tharo’n wael yn ystod y sioe deledu nos Sadwrn (Tachwedd 2).

Bydd Lauren Oakley yn cymryd ei lle yn y gyfres, gan bartneru’r canwr JB Gill.

Mae’r BBC wedi datgan eu cefnogaeth i Amy Dowden wrth iddi wella.

Salwch

Roedd Amy Dowden, sydd wedi siarad yn agored am fyw â chyflwr Crohn’s, wedi gwella o ganser y fron mewn da bryd i gymryd rhan yn y gyfres eleni.

Wnaeth hi ddim ymddangos yn y gyfres y llynedd gan ei bod hi’n derbyn triniaeth am y canser.

Yn dilyn y newyddion na fydd hi’n cymryd rhan yn y gyfres o hyn ymlaen, dywedodd Amy Dowden ei bod hi’n torri’i chalon.

“Dros y misoedd diwethaf, roeddwn i’n teimlo fel fi fy hun unwaith eto,” meddai ar Instagram.

“Bellach, nid canser oedd y peth cyntaf roeddwn i’n meddwl amdano wrth ddihuno, ond coreograffi, dewis cerddoriaeth, pa ddawnsfeydd ym mha drefn, yr hyn roedd angen i ni weithio arno.

“Roeddwn i’n teimlo’n rhydd unwaith eto.”

Amy Dowden

Amy Dowden yn siarad am ddysgu Cymraeg a chyflwr Crohn’s

Alun Rhys Chivers

Roedd y ddawnswraig yn cyflwyno dwy wobr yng ngwobrau BAFTA Cymru nos Sul (Hydref 9)
Amy Dowden ac Aled Jones

Amy Dowden ac Aled Jones yn dod â thaith iaith selebs Cymru i ben

Y ddawnswraig adnabyddus o Gaerffili oedd y seleb olaf i deithio o amgylch Cymru’n ceisio dysgu Cymraeg