Daeth y gyfres boblogaidd Iaith Ar Daith i ben neithiwr (nos Sul, Mai 15) gyda thaith yng nghwmi’r ddawnswraig adnabyddus Amy Dowden a’r canwr a chyflwynydd Aled Jones.

Y selebs aeth ati i ddysgu Cymraeg eleni oedd y Parchedig Kate Bottley (gyda Jason Mohammad), yr anturiaethwr a chyn-chwaraewr rygbi Richard Parks (gyda Lowri Morgan), y comedïwr Mike Bubbins (gydag Elis James), yr actores Casualty Amanda Henderson (gyda Mali Harries), a’r DJ a chyflwynydd radio Katie Owen (gyda Huw Stephens).

Ymunodd Amy Dowden o Gaerffili â chast y gyfres Strictly Come Dancing yn 2017, gan ddod yn un o ffefrynnau’r gwylwyr o fewn dim o dro.

Fel un sy’n cyfaddef ei bod hi’n llawer mwy cyfforddus yn dawnsio o flaen miloedd o bobol nag wrth ddysgu Cymraeg, sut hwyl gafodd hi, tybed? Mae’r ateb bellach i’w gael ar S4C Clic, lle mae modd gwylio’r bennod honno a sawl pennod arall o’r gyfres.

A hithau wedi hen arfer â chydweithio â phartner ar y llawr dawnsio, mae ei mentor ieithyddol, Aled Jones, hefyd yn gwybod sut brofiad yw dawnsio ar y gyfres, ar ôl cyrraedd y rownd gyn-derfynol.

Cadw’r iaith yn fyw

“Dydw i ddim wedi defnyddio’r Gymraeg ers i mi adael yr ysgol, sy’n fy ngwneud i’n drist iawn, gan fy mod i’n falch iawn o fod yn Gymraes,” meddai Amy Dowden.

“A dw i wir eisiau cadw’r iaith yn fyw a’i ddefnyddio.

“Dawnsio o flaen miliynau neu dysgu Cymraeg? Dysgu Cymraeg sy’n codi ofn arna’ i fwya’! Rhowch fi ar y llwyfan yna gyda rhywun sy’n dysgu dawnsio unrhyw ddydd!

“Dwi am wneud camgymeriadau, ond dwi am drio fy ngorau. Ac os eith popeth o chwith, dwi’n mynd i ddawnsio.”

Llancaiach Fawr yw man cychwyn y daith, lle maen nhw’n ymweld â thŷ bonedd o Oes y Tuduriaid, ac yn mynd yn ôl mewn amser i actio rhan y gweision a pherchnogion tŷ i ymwelwyr.

Mae’r dasg nesaf yn aros amdanyn nhw yn Aberhafesp, Powys, lle mae’n rhaid gwybod y gwahaniaeth rhwng y dde a’r chwith wrth yrru cloddwyr – ond a fydd eu hymdrechion yn mynd i’r clawdd?

Yna, ymlaen i Borthmadog, lle mae’r ddau’n gobeithio taro’r nodyn cywir wrth diwnio piano.

Ond mae’r her fwyaf i ddod wrth i Amy wrth deithio i Gaernarfon ar gyfer yr her gyfryngol. A yw hi’n llwyddo, tybed?

Katie Owen a Huw Stephens

“Deall cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg” yn ysgogi Katie Owen i ddysgu’r iaith

“Oherwydd fy mod i’n gweithio yn y byd miwsig, hoffwn i allu deall cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg”
Mali Harries ac Amanda Henderson

‘Paid â bod ofn’ yw trac sain actores ar ei thaith iaith ar S4C

Amanda Henderson, actores yn y gyfres ‘Casualty’, yw seren ddiweddaraf ‘Iaith Ar Daith’, ac mae hi’n cael cwmni cyd-actores, Mali Harries
Mike Bubbins ac Elis James

“Does dim esgus i mi beidio siarad Cymraeg”

Mike Bubbins yw’r seleb diweddaraf i fynd ati yn y gyfres Iaith Ar Daith, ac mae’n cael cymorth ei gyd-ddigrifwr Elis James

Her ddiweddara’ Richard Parks

Alun Rhys Chivers

Bu i gyn-flaenwr Cymru ddiodde’ o iselder ar ôl rhoi’r gorau i chwarae rygbi ar y lefel uchaf, a throi at ddringo mynyddoedd er mwyn herio’i hun
Richard Parks, Lowri Morgan a Nel

Richard Parks ‘yn teimlo’n llai Cymreig’ fel dyn o etifeddiaeth gymysg

Yr anturiaethwr a chyn-chwaraewr rygbi yw’r seleb diweddaraf i fynd ati i ddysgu Cymraeg yn y gyfres Iaith Ar Daith, a Lowri Morgan fydd ei fentor