Bydd dwy actores fu’n gweithio yn yr un adeilad ers deng mlynedd, ond sydd erioed wedi cwrdd, yn dod wyneb yn wyneb ac yn mynd â’r iaith ar daith ar S4C heno (nos Sul, Mai 1).

Ar ôl deng mlynedd o ffilmio’r ddrama boblogaidd ‘Casualty’ yn stiwdios y BBC yng Nghaerdydd, mae’r actores Amanda Henderson yn credu ei fod e’n hen bryd iddi ddysgu siarad Cymraeg.

Actores arall, Mali Harries, fydd yn ei helpu hi ar ei ffordd, yn cynnig cymorth ac yn gosod sawl her iddi.

Er bod y ddwy actores yn gweithio ochr wrth ochr yn y stiwdios ym Mae Caerdydd – Amanda yn ‘Casualty’ a Mali ar Pobol y Cwm – dyw’r ddwy erioed wedi cwrdd!

Ond mae hyn ar fin newid wrth i Amanda a Mali ddechrau ar daith arbennig iawn o leoliad arbennig iawn sef Portmeirion – lle sy’n agos at galon Amanda.

“Rydw i wedi bod i Ŵyl Rhif 6 ym Mhortmeirion sawl gwaith a dwi’n cofio dod yma fel plentyn gyda fy nheulu. Mae’n lle dwi wedi caru erioed,” meddai.

Ond pam mae’r ferch sy’n wreiddiol o Fanceinion, ac sy’n adnabyddus i filiynau o ffans ‘Casualty’, eisiau dysgu Cymraeg?

“Rydw i wedi bod yn ffilmio yng Nghaerdydd ers bron 10 mlynedd,” meddai.

“A nawr dwi’n teimlo fy mod i bron yn Gymraes go iawn.

“Mae nifer fawr o’r bobol rwy’n gweithio gyda nhw yn siarad Cymraeg fel eu hiaith gyntaf – felly hoffwn i allu cynnal sgwrs yn gyfan gwbl yn y Gymraeg. Bydda i mor falch ohonof fi fy hunan pan dwi’n cyrraedd y pwynt yna – a dwi’n defnyddio’r gair ‘pan’ nid ‘os’!”

Mae Mali Harries yn wyneb cyfarwydd hefyd – ar hyn o bryd mae’n chwarae rhan Jaclyn Parry ar Pobol y Cwm, a bydd sawl un yn ei chofio yn y ddrama dywyll ‘Y Gwyll’.

Meddai Mali: “Mae’r ddwy ohonom ni yn gweithio yn y stiwdios yn Roath Lock a ‘dyn ni erioed wedi cwrdd! Felly dwi’n gyffrous iawn i gwrdd ag Amanda.”

Mae Amanda yn gyffrous iawn i gwrdd â Mali hefyd: “Dwi’n credu bod fi a Mali yn mynd i wneud tîm da!” meddai hi.

O Bortmeirion i Dyfi Donkeys

Ar ôl gwneud ychydig o waith cynnal a chadw ym Mhortmeirion a dysgu am y lliwiau paent unigryw, mae’r ddwy yn ymweld â lle arbennig iawn sef Dyfi Donkeys, sefydliad sy’n helpu pobol i wella eu hiechyd meddwl trwy weithio gydag asynnod.

Mae Amanda yn cyfaddef yn ystod yr ymweliad ei bod hi wedi dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl dros y blynyddoedd diwethaf ac yn edrych ymlaen at ddysgu mwy am yr asynnod a gwaith Dyfi Donkeys.

‘Paid â bod ofn’

Wrth i’r ddwy barhau ar eu taith, mae Mali yn chwarae cân arbennig i Amanda sef ‘Paid â Bod Ofn’ gan y grŵp Eden.

Mae’r gân yn dod yn thema ar eu taith wrth i Amanda wynebu ei phryderon, gan gynnwys dysgu sgiliau syrcas a chymryd rhan mewn ymarferion gyda’r frigâd dân.

Ond mae’r sialens fwyaf i ddod wrth i Amanda a Mali deithio i stiwdios Tinopolis yn Llanelli ar gyfer yr her gyfryngol.

Bydd rhaid i Amanda beidio bod ofn, ond a yw hi’n llwyddo?

  • Iaith ar Daith ar S4C, Nos Sul, 1 Mai am 8.00. Mae rhaglenni eraill yn y gyfres sef taith y Parch. Kate Bottley a Jason Mohammad; Richard Parks a Lowri Morgan a’r comedïwr Mike Bubbins ac Elis James ar gael i wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.