Mae Elusen Aloud a Phorthladd Aberdaugleddau, gyda chefnogaeth cynllun CultureStep A&B Cymru, wedi cyhoeddi partneriaeth a phrosiect cyfansoddi creadigol newydd i hybu cynaliadwyedd.

Bydd y prosiect yn para tair wythnos y mis hwn, ac fe fydd yn cael ei leoli yn Ysgol Harri Tudur, Penfro.

Fel rhan o’r prosiect, bydd disgyblion yr ysgol yn cael cyfle unigryw i gydweithio â chyfansoddwr proffesiynol, dan gomisiwn Elusen Aloud, er mwyn creu cân newydd, wreiddiol.

Bydd staff Porthladd Aberdaugleddau ynghyd â phartneriaid y prosiect gan gynnwys Gwasanaethau Datblygu Wave Hub, Egni Morol Cymru ac ORE Catapult yn ymweld â’r ysgol i siarad â’r plant am eu prosiect morol newydd Doc Penfro, i gyflwyno eu gwaith a’u cynlluniau o amgylch egni cynaliadwy yn yr ardal ar gyfer y dyfodol.

Bydd Arweinwyr Côr o Elusen Aloud yna wrth-law i helpu grŵp llai o ddisgyblion sy’n astudio TGAU Cerddoriaeth i gyfansoddi eu halaw a’u geiriau eu hunain, gan gymryd ysbrydoliaeth o gyflwyniadau y siaradwyr gwâdd.

Bydd darnau’r disgyblion wedyn yn cael eu recordio i greu campwaith bwerus.

Bydd Elusen Aloud a Phorthladd Aberdaugleddau yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned a fydd yn cymryd rhan yn y recordiad ac yn ymddangos yn y fideo gerddorol gorffenedig.

Ynghŷd â hyn, bydd cyfle i weld golygfeydd godidog o’r tirwedd yn y fideo cerddoriaeth i greu darn trawiadol i gydfynd â chân wreiddiol y disgyblion.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o gynlluniau datblygu Porthladd Aberdaugleddau, bydd y prosiect hwn yn dathlu ymlediad diweddar Elusen Aloud i Orllewin Cymru ar ôl iddyn nhw lawnsio tri côr Only Boys Aloud newydd: yng Ngheredigion, Sir Gâr a Hwlffordd.

Ysbrydoli

“Mae’n hynod braf cael gweithio gyda Porthladd Aberdaugleddau ac Ysgol Harri Tudur ar y prosiect cyfansoddi unigryw hwn,” meddai Craig Yates, Cyfarwyddwr Creadigol Elusen Aloud.

“Mae hi mor bwysig fod gan bobl ifanc gyfle i fynegi eu barn, yn enwedig ar bynciau mor allweddol â chynaliadwyedd amgylcheddol.

“Rydym yn edrych ymlaen i glywed eu syniadau ac yn methu aros i weld y darn terfynol!”

Yn ôl Lauren Williams, Swyddog Ymgysylltu Cymunedol Porthladd Aberdaugleddau, mae’r bartneriaeth yn un “unigryw a chyffrous”.

“Rydym yn edrych ymlaen i siarad â disgyblion lleol am brosiect morol Doc Penfro a’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt o ran gyrfa, delio â newid hinsawdd a’r effaith economaidd a gaiff ar yr ardal,” meddai.

“Rydym yn gobeithio y bydd y fideo cerddoriaeth gorffenedig yn ysbrydoli pawb yn yr ardal i deimlo’n gyffrous ynghylch prosiect morol Doc Penfro a theimlo’n falch bod y cyfle gwerthfawr yma yn digwydd yng nghalon eu cymuned.”

Mae Elusen Aloud yn derbyn ceisiadau i ymuno â chorau Only Boys Aloud drwy’r flwyddyn, ac mae modd cael hyd i ragor o wybodaeth drwy’r wefan https://www.aloud.cymru/what-we-do/only-boys-aloud/join-a-choir/.