Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi lansio ymgyrch i annog y Cardis i godi hwyl cyn yr ŵyl.

Cafodd yr ymgyrch ei lansio ar ddiwrnod Sadwrn Barlys yn Aberteifi ddydd Sadwrn (Ebrill 30), a hynny er mwyn cynorthwyo ac annog cymunedau Ceredigion i ddeffro wedi’r pandemig.

Mae pecyn Y Cardis yn Codi Hwyl gan yr Eisteddfod yn cynnig syniadau am ddigwyddiadau y gall pob cymuned eu cynnal yn lleol – nid yn benodol i godi arian, ond i godi hwyl.

Banc y Ddafad Ddu

Yn ogystal â syniadau am ddigwyddiadau hwyliog i’w cynnal, fe fydd trefnwyr lleol yn cael bwndel o ‘Arian y Cardi’.

Arian newydd o hen Fanc y Ddafad Ddu yn Nhregaron yw hwn, fydd yn cael ei roi i fynychwyr digwyddiadau lleol fel arwydd o ddiolch am gefnogi digwyddiadau lleol.

Gall pawb sy’n cael darn arian ymuno â raffl fawr ar faes yr Eisteddfod ym mis Awst.

Y nod fydd cael 50 o ddigwyddiadau lleol yn y calendr (Calendr360.cymru) erbyn Mehefin 10, union 50 diwrnod cyn y brifwyl.

“Fe fu cymaint o fwrlwm yn y sir cyn Covid, wrth i gymunedau basio’r targed codi arian a chynnal digwyddiadau arbennig o amrywiol ar hyd a lled y sir,” meddai Arwel Jones, cadeirydd Pwyllgor Cronfa Leol yr Eisteddfod, oedd wedi trefnu cyngerdd yng Nghilcennin nos Wener (Ebrill 29).

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen dod â phobol ynghyd unwaith eto yn ein neuaddau, ein tafarndai a’n caeau.

“Trwy drefnu digwyddiadau bach hwyliog ar draws y sir ry’n ni’n gobeithio gwneud mwy na chodi ymwybyddiaeth o’r Eisteddfod.

“Rydyn ni eisiau gweld Ceredigion yn deffro, a chymdeithas yn ailgydio yn yr arfer o ddod ynghyd i gynnal ein diwylliant a joio.”

Yn ogystal â chynnig syniadau am ddigwyddiadau, mae’r pecyn Codi Hwyl yn cynnig ambell canllaw ac ysbrydoliaeth ar gyfer harddu’r bröydd, i sicrhau bod Cymru gyfan yn cael croeso lliwgar i’r sir ym mis Awst.