Mae pobol ardal Llanbedr Pont Steffan yn wynebu brwydr i atal y cyngor lleol rhag symud y llyfrgell.

Y fforwm fwyaf bywiog ar gyfer trafod y pwnc ydy’r wefan fro leol, Clonc360.

Ar honno, ac ym mhapur bro Clonc, mae straeon a cholofnau yn cyflwyno gwybodaeth a barn.

Ar y wefan a thrwy gyfryngau cymdeithasol Clonc360, mae fideos o gyfarfod cyhoeddus a sylwadau pobol leol.

Dyna sut mae’r gwasanaeth – y wefan fro gyntaf o’i bath yng Nghymru – yn dangos pwysigrwydd newyddion lleol; heb sôn am flog byw o lwyddiannau’r ardal yn Eisteddfod yr Urdd neu’r straeon diweddaraf am ddatblygiadau busnes a chwaraeon.

Ac mae bellach yn rhan o symudiad i ddatblygu gwefannau tebyg, gyda rhannau helaeth o orllewin Cymru eisoes yn cymryd rhan.

Gwefan newydd

Wrth i Clonc360 annog pobol bro Steffan i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch dyfodol eu llyfrgell a’r peryg o’i symud o ganol y dref i adeilad llawer llai hygyrch, mae pobol Penllyn a’r Bala yn dathlu sefydlu eu gwefan fro nhw hefyd.

Tegid360 ydy’r 14eg gwefan Gymraeg i gael ei sefydlu dan adain cwmni Golwg, sy’n gam arall yn y nod o greu rhwydwaith o wefannau ledled Cymru – rhwydwaith sy’n defnyddio’r cyfryngau newydd i adrodd am fywyd eu hardaloedd a chyfrannu ato.

Ac yn Ynys Môn, er enghraifft, mae’r wefan fro yn llwyfan i’r ymdrech i gefnogi dwy ŵyl, sef Eisteddfod yr Urdd 2026 a Gŵyl Cefni, yn fforwm unigryw ar gyfer gweithgareddau o’r fath.

Cadw llygad

Ar ôl llwyddiant arbrawf lleol Clonc360, dechreuodd cwmni Golwg ar y gwaith o ddatblygu rhwydwaith Bro360 saith mlynedd yn ôl, wrth i bryderon gynyddu am ddyfodol y cyfryngau traddodiadol, o bapurau lleol i bapurau bro.

Mae’n wedd unigryw Gymraeg ar symudiad byd-eang, wrth i gymunedau golli eu llwyfannau newyddion a’r cyfle i bobol gadw llygad ar yr hyn sy’n digwydd yn eu hardaloedd.

A chynyddu fydd yr angen, yn ôl arbenigwyr.

Eisoes mae’n argyfwng o ran newyddion ffug a phrinder ffynonellau diogel o wybodaeth; y pryder newydd ydy y bydd hi’n llawer haws ystumio’r gwirionedd gydag AI ac ystumio’r farn gyhoeddus yr un pryd.

Unwaith eto, mae Clonc360 wedi dangos pwysigrwydd hynny gyda dau ddatblygiad mawr arall – torri’r stori am fygythiad i Chweched Dosbarth ysgolion Ceredigion, a thynnu sylw at fwriad i godi cadwyn o beilonau ar draws dyffryn Teifi o fferm wynt yn yr ardal.

Cyfle i gyfrannu

Am y tro cyntaf, mae yna gyfle i bobol y bröydd gefnogi’r rhwydwaith trwy’r syniad o ‘Arian Pawb’ – crowdfunding.

Mae prosiect Bro360 yn gosod botwm Cefnogi ar bob un o’r gwefannau i apelio am gyfraniadau at gynnal a datblygu’r rhwydwaith, dull sydd wedi’i ddefnyddio’n llwyddiannus ledled y byd.

Yr angen cyntaf ydy gwneud y gwaith sylfaenol o gynnal y dechnoleg – mae’r holl wefannau bro yn gweithio ar yr un system ac yn rhannu’r un adnoddau.

Gydag ychydig rhagor o arian, mae’r gwefannau’n gallu trefnu hyfforddiant ar gyfer darpar newyddiadurwyr lleol – ar bopeth o ysgrifennu stori i ddefnyddio fideo i gwestiynu’r hyn sy’n digwydd o’u cwmpas.

Mae’r botwm ei hun yn symbol o’r meddylfryd y tu cefn i’r rhwydwaith – mai trwy ein hymdrech ein hunain y cawn ni chwarae teg.

Heb newyddion, heb wybodaeth, heb rym.