Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Kevin Simmons sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Heno ar S4C.

Mae Kevin yn byw yn Rhuthun, Sir Ddinbych ac yn dysgu Cymraeg gyda Popeth Cymraeg.


Kevin, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?

Heno ydy fy hoff raglen ar S4C. Mae’r rhaglen yn adrodd amrywiaeth o straeon gan bob math o bobl. Maen nhw’n ysbrydoledig fel arfer, yn enwedig pan ddaw rhywbeth positif o dristwch.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Dw i’n dwlu ar yr holl gyflwynwyr. Maen nhw’n cael llawer o hwyl ac maen nhw’n gwenu o hyd. Mae gan rai ohonyn nhw heriau: mae Dafydd Wyn yn cael triniaeth am MS [Sglerosis Ymledol] ac mae Mari Grug yn diodde’ o ganser. Maen nhw’n rhoi’r fraint i ni weld sut maen nhw wedi bod yn ymdopi, ar y dyddiau drwg yn ogystal â’r dyddiau da.

Beth wyt ti ddim yn hoffi am y rhaglen?

Wrth gwrs, mae ‘na un neu ddau beth dw i ddim yn eu gwerthfawrogi; yn fy marn i, weithiau mae ‘na ormod o bwyslais ar ffasiwn.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Maen nhw’n tueddu i ddefnyddio iaith lafar naturiol, anffurfiol.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae’n dibynnu o le maen nhw’n dod! O’r de mae’r mwyafrif yn dod. Ond dw i’n eu deall nhw.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Byswn. Mae ‘na ormod o newyddion drwg ar y teledu y dyddiau hyn. Os dach chi eisiau gweld newyddion calonogol, be’ am edrych ar Heno?

Heno, bob nos Lun i nos Wener am 7yh ar S4C.