Mae sicrhau presenoldeb mewn eisteddfodau yn parhau i fod yn flaenoriaeth er gwaethaf toriadau ariannol, medd nifer o sefydliadau cenedlaethol.
Yn ôl Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Phennaeth Addysg Amgueddfa Cymru, mae mynd allan at gynulleidfaoedd yn rywbeth maen nhw’n awyddus iawn i barhau i’w gynnig.
Fodd bynnag, dywed Eleri Evans, Pennaeth Addysg yr Amgueddfa Genedlaethol, ei bod hi’n amhosib iddi ddweud a fyddan nhw’n gallu parhau i ddod i wyliau fel hyn ai peidio, ond fod yr “awydd yna”.
Mae’r ddau sefydliad yn wynebu toriad i’w cyllid, gyda’r Amgueddfa Genedlaethol yn derbyn toriad o £3m i’w grant a’r Llyfrgell Genedlaethol yn colli £1.3m.
“Mae hi wedi bod yn wythnos brysur i ni yn siarad efo pobol dros Gymru,” meddai Eleri Evans wrth golwg360.
“Fel Amgueddfa Genedlaethol, mae gennym ni ddyletswydd i gyrraedd pobol ar draws Cymru gyfan, ac mae’r Eisteddfod yn rhoi cyfle i ni wneud hynna, ac mae’r wythnos yma’n bendant wedi rhoi cyfle i ni wneud hynna.
“Mae gennym ni heriau ariannol; dw i ddim yn meddwl ein bod ni mewn sefyllfa eto i weld beth fydd y dyfodol yn ei olygu i ni.
“Mae hi’n amhosib i fi ddweud os ydyn ni’n gallu parhau neu beidio i ddod i wyliau fel hyn, ond yn sicr mae’r awydd yna i ni fod eisiau gwneud.
“I ni, mae cyrraedd pobol ar draws Cymru’n bwysig iawn.”
Ychwanega fod eu strategaeth yn pwysleisio bod eu casgliadau a’u hamgueddfeydd i bawb, sy’n golygu pobol o bob rhan o Gymru.
“Mae gwahanol ffyrdd o wneud hynny; mae dod i ŵyl fel hyn yn un ffordd, ond mae lot o ffyrdd eraill i wneud hynny – yn ddigidol, trio ffeindio gwyliau llai i fynd iddyn nhw.
“Ond dydyn ni’n sicr ddim wedi penderfynu, na chael amser i adlewyrchu ar beth mae’r toriadau yn ei olygu i ni mewn cyd-destun rhywbeth fel hyn.
“O ran blaenoriaethau, mae cyrraedd pob ardal ar draws Cymru [yn flaenoriaeth]. Trwy’n rhaglenni gwahanol ni, rhaglenni addysg er enghraifft, dyna un o’n amcanion ni – cyrraedd pob plentyn yng Nghymru drwy’r rhaglen addysg.
“Mae o’n flaenoriaeth uchel, mae’r heriau yna, ac mae’n rhaid i ni eu hwynebu nhw, a byddwn ni’n eistedd lawr dros y misoedd nesaf i fesur pob agwedd yn erbyn ei gilydd.”
‘Hynod o bwysig’
Mae Rhodri Llwyd Morgan yn Brif Weithredwr ar y Llyfrgell Genedlaethol ers deufis, a dywed yntau fod cael presenoldeb ar faes yr Eisteddfod yn “hynod o bwysig” hefyd.
“Mae hi wedi bod yn wythnos hyfryd, heddiw yn coroni o ran y tywydd. Ond o ran prysurdeb, mae’r stondin wedi bod yn llawn, mae yna amrywiaeth o weithgareddau mae plant a phobol ifanc yn gallu’u gwneud,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni wedi bod yn croesawu pobol i beth mae’r Llyfrgell yn gallu ei wneud i bobol, dyna ydy’n nod ni yn y pendraw ni o fod yn Eisteddfod [yr Urdd], a mynd i’r Eisteddfod Genedlaethol hefyd – cyfarfod pobol o genhedlaeth ifanc yn enwedig yn rhan mor bwysig o godi’r ymwybyddiaeth, codi’r diddordeb, nid yn unig mewn hanes a diwylliant a phethau hen, ond y pethau mae pobol yn gallu gwneud nawr, digidol a’r ffordd mae pobol yn gallu ymgysylltu â’n casgliadau sy’n dweud pethau am ein hanes ni a phethau sy’n digwydd nawr yn y wlad.
“Rydyn ni wrth ein boddau bod pobol yn dod atom ni’n rhannu straeon, cynnig ambell i etiem i ni ystyried eu rhoi yn y casgliadau.
“Yn y bôn, rydyn ni’n defnyddio wythnos fel hon i ddangos cipolwg ar yr hyn mae’r casgliadau yn ei gynnig iddyn nhw.”
Heddiw (dydd Gwener, Mai 31), mae’r Academi Heddwch wedi ymuno â nhw ar stondin y Llyfrgell Genedlaethol i roi sylw i ddeiseb heddwch menywod Cymru.
“Mae o’n bwysig iawn yn yr oes yma, lle mae toriadau wedi bod ar sawl sefydliad cyhoeddus a ni yn eu plith nhw,” meddai wedyn.
“Mae o’n bwysig bo ni ddim yn colli golwg o fynd allan a chysylltu gyda phobol, galluogi pobol i ddod i’n gweld ni, codi’r ymwybyddiaeth.
“Dw i’n teimlo bod hynna’n flaenoriaeth, yn sicr, i ni fel sefydliad oherwydd, yn y pen draw, mae ein casgliadau ni’n dweud stori pobol Cymru, felly os nad ydyn ni’n bresennol, yn mynd i siarad gyda phobol Cymru yn y gwyliau hyn, yn y sioeau, yn yr Eisteddfodau, yna rydyn ni’n colli cyfle arbennig.
“Dw i’n benderfynol bo ni ddim yn colli’r cyfle yna.”
‘Cwestiwn i’w ystyried’
Ar stondin Merched y Wawr, mae menywod Maldwyn wedi bod yn brysur yn gweini paneidiau ac yn rhoi croeso i aelodau ac ymwelwyr gydol yr wythnos.
Eglura Tegwen Morris, Cyfawryddwr Cenedlaethol Merched y Wawr, eu bod nhw “wirioneddol yn gorfod ystyried” cynaliadwyedd ariannol parhau i fynd â stondinau i wyliau.
“Mae hwnna’n gwestiwn rydyn ni wirioneddol yn gorfod ei ystyried ar y pryd,” meddai.
“Beth rydyn ni wedi bod yn lwcus iawn, rydyn ni wedi gwenud prosiect mawr cymunedol yn Sir Drefaldwyn ac wedi elwau’n sylweddol o gronfa’r Loteri.
“Dyna un o’r rhesymau rydyn ni’n gallu dod i wyliau fel yma, os ydyn ni’n gweithio ar brosiectau mawr cymunedol a’r pinacl yn digwydd yn Eisteddfod yr Urdd.”
Mae Merched y Wawr wedi bod yn gweithio ar brosiectau cymunedol tebyg yn Llanelwedd a Phontypridd hefyd.
“Ar ben hynny, mae’n gofyn lot fawr o’r ardal ble mae’r Eisteddfod i godi arian, ond mae’r rhan fwyaf o’r aelodau’n cyfrannu tua £5 yr un i alluogi ni i fynd i ddigwyddiadau o’r math.
“Mae’n anodd, dw i’n credu, efallai heb y loteri y bydden ni’n stryglo’n ofnadwy i gyrraedd digwyddiadau fel yr Urdd, y Genedlaethol a’r Sioe.
“Ti’n sôn nawr am fynd i unrhyw ŵyl fel hyn, o leiaf £5,000 sy’n arian mawr i fedru chwilio dair gwaith y flwyddyn – ti’n sôn am £15,000.
“Mae’n heriol, ond dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig ein bod ni’n gallu cynnig gwasanaeth i’n haelodau a’n darpar aelodau.”
Ychwanega eu bod nhw wedi cael wythnos brysur dros ben, a’u bod nhw wedi gweld lot o ddysgwyr sydd wedi dod dros y ffin.
“Lot wedi dod yma i ymarfer eu Cymraeg – sy’n rhoi lot o hwyl iddyn nhw, i deimlo’r hyder eu bod nhw’n gallu dod mewn i rywle a chael sgwrs,” meddai.