Mae’r ystrydeb fod llyfrau gan fenywod yn trafod “perthnasau ac emosiynau” yn unig yn “nonsens llwyr”, yn ôl Caryl Lewis, beirniad y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn heddiw (dydd Gwener, Mai 31).
Daw hyn wrth i ymchwil newydd ddangos bod dynion yn tueddu i wrthod llyfrau wedi’u hysgrifennu gan fenywod.
Er bod menywod yn prynu llyfrau gan fenywod a dynion yn gyfartal, dydy hynny ddim yn wir am ddynion, medd ymchwil Nielsen BookData.
Er nad ydy’r meddylfryd yma’n cael cymaint o ddylanwad yn y “byd llenyddol Cymraeg”, yn ôl yr awdur Caryl Lewis, dywed fod angen annog pobol i “ddarllen yn fwy eangfrydig”.
Gwthio yn erbyn yr agweddau traddodiadol yng Nghymru
Ar gyfer yr ugain awdur ffuglen a ffeithiol benywaidd werthodd orau yn y Deyrnas Unedig yn 2023, daeth 20% o’r pryniannau gan ddynion, yn ôl y dadansoddiad.
Ar yr un pryd, cafodd gwaith 44% o’r ugain awdur ffuglen a ffeithiol gwrywaidd mwyaf poblogaidd eu prynu gan fenywod.
Ond a yw’r un duedd yn bodoli yn y byd llenyddiaeth Cymraeg?
“Dydw i ddim yn meddwl bod cymaint o duedd yn y Gymraeg, a dw i’n meddwl bod sawl rheswm dros hyn,” meddai Caryl Lewis wrth golwg360.
“Y prif reswm, bydden i’n meddwl, yw bod gan brynwyr llyfrau mwy o berthynas gyda’r awduron achos ei bod hi’n iaith leiafrifol.
“Hefyd, fel awduron yng Nghymru, ni’n sgrifennu am lot o wahanol mathau o bethau.
“Dydyn ni ddim yn dewis rhyw fath o lyfr ac yn cynhyrchu hwnna o hyd.
“Dw i’n meddwl bod hynny’n digwydd fwy yn y farchnad Saesneg, lle mae pobol yn meddwl: ‘Mae hwnna’n chick-lit a dynion sy’n sgrifennu’r thrillers tywyll’.
“Mae yna stereoteip bod llyfrau gan ferched am berthnasau ac emosiynau yn y blaen, sy’n nonsens llwyr.
“Er ein bod ni’n dal i wthio yn erbyn yr agweddau yna yng Nghymru, dydw i ddim yn meddwl bod y meddylfryd yna’n cael cymaint o ddylanwad yn y byd llenyddol Cymraeg.”
Angen sicrhau darpariaeth gan ddynion a menywod i blant a phobol ifanc
Yn ôl Caryl Lewis, mae angen annog pobol i feddwl yn fwy agored am yr hyn maen nhw’n ei ddarllen, a hynny’n ifanc.
“Mae gennym ni gyd ein ffyrdd o ddarllen, ond dw i’n meddwl bod angen i ni gyd yn gyffredinol fod yn darllen yn fwy eangfrydig gyda meddwl agored, achos dw i’n meddwl ein bod ni’n dioddef o’r hen stereoteipiau a thraddodiadau…,” meddai.
“A dydyn ni ddim yn cwestiynu’r rheiny i raddau.
“Yn sicr, ni’n colli lot o’n darllenwyr yn eu harddegau, ac mae’n bwysig bod darpariaeth iddyn nhw gan ddynion a merched i’w hannog nhw i fod yn feddwl-agored pan fyddan nhw’n dewis llyfrau.
“Ni’n dweud nad ydyn ni fod i feirniadu llyfr ar ei glawr, ond yn amlwg rydyn ni dal yn [gwneud hynny].”
Gwaith ‘anhygoel’ y Goron
Cyn beirniadu cystadleuaeth y Goron heddiw, dywedodd Caryl Lewis fod yr Eisteddfod yr Urdd yn hwb amlwg i awduron ifainc yng Nghymru.
“Yng Nghymru, mae merched yn arwain y sîn lenyddol ar hyn o bryd,” meddai.
“Dw i’n beirniadu’r Goron heddiw, ac roedd yna 19 o geisiadau, sydd yn anhygoel ac yn dangos fod awduron ifainc yn gweld e fel marc i anelu ato.
“Ac wrth gwrs, mae’n deadline hefyd, achos dyna yw gelyn pennaf awdur – yr amser.
“Ac yn sicr, o’r gwaith rydw i wedi’i ddarllen yn beirniadu’r Goron, maen nhw’n uchelgeisiol.
“Mae’r gwaith yn amrywiol, ac yn gwthio ffiniau a herio ffiniau hefyd, felly dw i’n meddwl ein bod ni mewn sefyllfa reit dda.”