Tegwen Bruce-Deans yw Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Cafodd ei henw ei ddatgelu ar Lwyfan y Pafiliwn Gwyn yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.

Mae hi’n dod o Landrindod, Maesyfed.

Cafodd y seremoni ei noddi gan Brifysgol Caerdydd.

Yn ail yn y gystadleuaeth oedd Mirain Iwerydd o Grymych, a Heledd Evans o Gaerdydd yn drydydd.

@golwg360

Llongyfarchiadau mawr i Tegwen Bruce-Deans, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd eleni 👏 Enillodd Tegwen y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y llynedd, sy’n ei gwneud yr ail berson erioed i gyflawni’r “dwbl”. #cymru #eisteddfod

♬ original sound – golwg360

Y buddugol

Enillodd Tegwen Bruce-Deans y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Sir Gaerfyrddin y llynedd, sy’n ei gwneud yr ail berson erioed i gyflawni’r “dwbl”.

Cafodd yr un gamp ei chyflawni gan Iestyn Tyne yn 2019.

Graddiodd yn y Gymraeg o Brifysgol Bangor yn 2022.

Mae hi bellach wedi ymgartrefu ym Mangor ac yn gweithio i BBC Radio Cymru.

Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Gwawrio, fel rhan o gyfres Tonfedd Heddiw Cyhoeddiadau Barddas.

Ers hynny, mae hi wedi ymuno â thîm Talwrn Twtil, ac yn un o bum bardd sydd yn rhan o gynllun Pencerdd eleni trwy garedigrwydd Llenyddiaeth Cymru a Barddas.

Mae ei gwaith barddonol wedi ymddangos mewn sawl cyhoeddiad, ond dydy ei gwaith rhyddiaith erioed wedi cyrraedd print, cyn heddiw.

Y dasg a’r feirniadaeth

Y dasg eleni oedd cyfansoddi darn neu ddarnau o ryddiaith dros 2,500 o eiriau ar y thema Terfynau.

Daeth 19 ymgais i law, gyda’r beirniad Elin Llwyd Morgan a Caryl Lewis “wedi mwynhau dethol a thrafod y darnau”.

“Dyma stori syml ond pwerus am ferch sy’n disgwyl am ei chariad mewn gorsaf drenau (‘Llefydd helô a ffarwel’) gyda neges sy’n annhebygol o’i blesio,” meddai Caryl Lewis.

“Mae’r arddull yn farddonol ar adegau ond heb fod yn chwithig, a’r frawddeg olaf gryno yn cyfleu cyfrolau.

“Yn ddi-gwestiwn, dyma ddarn mwyaf caboledig a soffistigedig y gystadleuaeth a’r darllenydd yn medru synhwyro fod yna law brofiadol wrth y llyw yn ein harwain trwy’r daith emosiynol.

“Mae gan yr awdur lais graenus a dawn naturiol i fedru synhwyro rhythm stori.

“Wrth ddarllen, roedd y ddwy ohonom yn llwyr ymgolli yn y sefyllfa ac yn anghofio mai beirniadu oedden ni.

“Dyna ydi dawn llenor – i greu rhith y gallwn ei gredu gan fynd â’n meddyliau i lefydd newydd.”

Y Goron

Y gemydd a’r gof arian Mari Eluned o Fallwyd yw gwneuthurwraig y Goron eleni.

“Fy mwriad oedd creu coron ifanc ei naws sy’n cyfleu cyfraniad gwerthfawr yr Urdd a chymunedau amaethyddol, megis Maldwyn, a’u pwysigrwydd i ddyfodol ein diwylliant a’n hiaith,” meddai.

Cafodd y goron ei rhoi gan Undeb Amaethwyr Cymru, Cangen Trefaldwyn.

Bydd y cyntaf, ail a thrydydd yn y cystadlaethau llenyddol gydol yr wythnos yn cael cyfle i fynd ar Gwrs Olwen yn yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, Llenyddiaeth Cymru er cof am Olwen Dafydd.

Mae hyn yn bosib drwy nawdd Ymddiriedolaeth Olwen Griffith.