O ddydd i ddydd, mae Guto Rhun yn gyfrifol am holl gynnwys Hansh ar S4C.

Mae hyn yn amrywio o gynnwys ffurf fer TikTok ac Instagram i gyfresi a rhaglenni teledu.

Datblygu talent a lleisiau newydd sydd wrth wraidd cynnwys Hansh, ac mae’n gweld hi’n fraint gallu cynnig cyfleoedd i bobol ifanc Cymru sy’n dechrau ar eu gyrfa o flaen a thu ôl y camera.

Dechreuodd ei yrfa yn cyflwyno C2 ar BBC Radio Cymru, cyn symud i weithio tu ôl y llen ym myd teledu plant.

Wrth greu cynnwys digidol i blant, fe ddatblygodd ei ddiddordeb ym myd cyfryngau cymdeithasol.

Arweiniodd hyn at ymuno â thîm comisiynu S4C, lle mae o wedi comisiynu amryw o gynnwys comedi, ffeithiol, sgript a materion cyfoes.

Am ddwy flynedd yn olynol, mae Hansh wedi ennill y wobr am y gyfres gymdeithasol orau yn y New Voice Awards, sy’n dangos bod cynnwys graenus yn y Gymraeg yn teithio y tu hwnt i glawdd Offa.


Holi Guto

Beth yw dy hoff atgof o fod yn aelod o’r Urdd?

Gymaint ohonynt, o glwb yr Urdd ar ôl ysgol yn Nglantwymyn yn rhedeg o dan y paarasiwt, tripiau i Langrannog a chyffwrdd y ffens drydan tra’n cerdded lawr i’r traeth.

Wnest ti erioed gymryd rhan/ennill cystadleuaeth yn Eisteddfod yr Urdd, ac ydy’r profiad o gystadlu wedi bod o fudd wedi hynny?

Mi oeddwn i wastad yn cystadlu yn unigol pan yn iau, ac yn yr ysgol uwchradd wedyn oedden ni wastad yn cystadlu yn y parti Cerdd Dant o dan arweiniad Llio James, mi oedd Ysgol Bro Ddyfi yn llwydianus iawn a dw i’n cofio cael streak o fuddugoliaethau yn y Genedlaethol gyda’r parti. Oedd hi wastad yn brofiad aros am y canlyniadau gefn llwyfan a sgrechian yn ddwl pan oedden ni’n curo. Mi oedd cystadlu yn dysgu hyder i sydd wedi helpu heb os drwy fy ngyrfa.

Pe baet ti’n aelod o’r Urdd heddiw, pa gyfleoedd hoffet ti fod yn rhan ohonyn nhw?

Mae’r neges heddwch o hyd yn bwerus ac yn ystyriol, mae’r gwaith sy’n cael ei wneud yn arbennig a gwerthoedd dal i fod yr un mor bwysig heddiw â buon nhw erioed. Mae’r cyfleon teithio hefyd yn anhygoel.

Beth mae bod yn Llywydd y Dydd Eisteddfod yr Urdd yn ei olygu i ti?

Heb os mae o’n fraint a dyna dwi’n siŵr be mae pawb yn ei ddweud, ond i fi mae’n golygu fod cael cynrychiolaeth o’r gymuned LHDT yn bwysig i’r Urdd fel sefydliad. Ac mae pwysau – gan fod Nain a Taid wedi ffonio Mam yn poeni yn aruthrol be’ dw i am wisgo ar y diwrnod!