Mae deuddeg o deitlau wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae cyfle i ddarllenwyr bleidleisio am eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae golwg360 wedi cael sgwrs gyda’r awduron ar y rhestr fer yn eu tro, er mwyn dod i wybod mwy amdanyn nhw a’u cyfrolau. Dyma sgwrs gyda Mari George, sydd wedi cyrraedd rhestr fer y categori Ffuglen gydag Sut i Ddofi Corryn.
Dywedwch ychydig wrthym ni am y llyfr os gwelwch yn dda
Mae gŵr Muriel, y prif gymeriad, yn dioddef o ganser – Ken. Mae hi’n teimlo ei bod hi ddim yn cyrraedd unrhyw le gyda meddygon, ac mae hi’n cofio am lyfr oedd ganddi yn y tŷ sef llyfr o feddyginiaeth amgen. Mae hi’n darllen am sut i wella salwch, ac mae hi’n gorfod dod o hyd i bry copyn a chael y gwenwyn allan o’r pry copyn a rhoi e i’w gŵr hi yfed. Ond mae hi’n gorfod mynd i Guatamala i gael gafael ar y pry copyn.
Beth oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer y nofel?
Sgrifennais i e’n ystod Covid, y cyfnod clo, ac efallai bod e’n dweud lot am sut oedd fy mhen i yn ystod y cyfnod yna. Mae’r syniad wedi bod yn fy mhen i ers blynyddoedd achos es i i deithio i Fecsico a Guatamela ac es i i’r jyngl felly mae’r holl bethau yn y llyfr yn wir – oni bai am y stori am y corryn. Dw i wastad wedi bod â diddordeb mewn gwrachod a meddyginiaeth a sut oedd menywod yn y gorffennol yn creu ryw bethau eu hunain, ryw potions, felly fe wnaeth y ddau beth ddod ynghyd. Hefyd roedd fy nhad i’n dioddef o salwch ac roedd mam yn trio gwahanol bethau i’w wella fe, felly cyplysu’r syniadau yma i gyd wnes i.
Oes yna neges y llyfr?
Stori gariad yw hi, gwaetha’r salwch mae cariad yn trechu. Mae Muriel yn arwres i fi, achos mae hi’n wynebu’i hofn hi o gorynod ac yn gorfod mynd allan i’r jyngl yma ar ben ei hun ac yn gorfod dod dros lot o rwystrau ac yn y pendraw dod allan yn well person. Mae ryw fath o neges o ‘beidiwch bod ofn pethau ac wynebu’ch ofnau mwyaf’.
Pa lyfr neu lyfrau sydd wedi dylanwadu fwyaf arnoch chi fel awdur?
Yn Gymraeg, fe wnes i wir fwynhau llyfr Llŷr Titus y llynedd, Pridd. Mae yna lot o bethau Siapaneaidd hefyd, mae fy merch yn darllen lot o lyfrau o dramor ac mae hi’n dod â’r rheiny adre a dw i’n eu darllen nhw. Dw i’n hoffi gwaith Sarah Waters hefyd.