Mae’r deuddeg llyfr sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn eleni wedi cael eu henwi.
Ymysg yr awduron sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau Cymraeg eleni, mae Guto Dafydd, Malachy Edwards, Megan Angharad Hunter a Gruffudd Owen.
Mae enwebiad hefyd i Llŷr Titus, wnaeth ennill y gystadleuaeth y llynedd gyda’i nofel gyntaf, Pridd.
Y beirniaid – Hanna Jarman, Tudur Dylan Jones, Nicci Beech a Rhiannon Marks – fydd yn penderfynu ar enillwyr y pedwar categori a’r brif wobr.
Fodd bynnag, mae cyfle i’r darllenwyr gael dweud eu dweud a phleidleisio dros eu hoff gyfrol yng nghystadleuaeth Barn y Bobl, sy’n cael ei rhedeg ar y cyd â golwg360, a gallwch bleidleisio isod.
Mae tri llyfr wedi cyrraedd y rhestr fer yn y pedwar categori, sef Ffuglen, Ffeithiol Greadigol, Barddoniaeth a Phlant a Phobol Ifanc.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo yn y Galeri yng Nghaernarfon ar Orffennaf 4.
Gwobr Farddoniaeth
Mae Bywyd Yma – Guto Dafydd
Mymryn Rhyddid – Gruffudd Owen
Y Traeth o Dan y Stryd – Hywel Griffiths
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Cranogwen – Jane Aaron
Y Delyn Aur – Malachy Owain Edwards
Trothwy – Iwan Rhys
Gwobr Ffuglen
Anfadwaith – Llŷr Titus
Sut i Ddofi Corryn – Mari George
Raffl – Aled Jones Williams
Gwobr Plant a Phobl Ifanc
Jac a’r Angel – Daf James
Y Nendyrau – Seran Dolma
Astronot yn yr Atig – Megan Angharad Hunter
Gwobrau Saesneg
Mae’r rhestr fer Saesneg wedi cael ei chyhoeddi hefyd, a bydd yr enillwyr hynny’n cael eu cyhoeddi ar Orffennaf 4 hefyd. Gall darllenwyr bleidleisio am enillydd y People’s Choice ar wefan nation.cymru.
Gwobr Barddoniaeth
I Think We’re Alone Now – Abigail Parry
Cowboy – Kandace Siobhan Walker
In Orbit – Glyn Edwards
Gwobr Ffeithiol Greadigol
Sarn Helen – Tom Bullough
Birdsplaining: A Natural History – Jasmine Donahaye
Spring Rain – Marc Hamer
Gwobr Ffuglen
Stray Dogs – Richard John Parfitt
The Unbroken Beauty of Rosalind Bone – Alex McCarthy
Neon Roses – Rachel Dawson
Gwobr Plant a Phobol Ifanc
Where the River Takes Us – Lesley Parr
Brilliant Black British History – Atinuke
Skrimsli – Nicola Davies
‘Gwledd’
Dywed Leusa Llewelyn, Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, bod y rhestr yn “wledd” eleni.
“Pedwar llyfr ar hugain gan awduron profiadol a rhai newydd, pob un yn cyflwyno agwedd wahanol ar lenyddiaeth Cymru,” meddai
“Amhosib yw crynhoi cymaint o lyfrau, a chymaint o awduron mewn un dyfyniad – fe geisiais ddod o hyd i themâu cyffredin i weld sut ffenestr i’r byd yr oedd cyhoeddiadau 2023 yn ei gynnig inni.
“Mae’r elfen hunangofiannol yn parhau’n gryf – a ddim yn y cyfrolau ffeithiol yn unig – adlais o’r cyfnod clo efallai wrth inni gael amser i adlewyrchu. Hynny hefyd fyd natur, cyfiawnder ac anghyfiawnder.
“Mae hi’n flwyddyn gref i ffantasi hefyd, sy’n arwydd ein bod yn chwilio am y man gwyn man draw.
“Llongyfarchiadau i awduron y rhestrau byrion i gyd am eich camp ac am ein diddanu.”
Bydd pleidlais Barn y Bobol golwg360 ar agor tan Fehefin 14, a dros yr wythnosau bydd golwg360 yn sgwrsio â’r awduron ar y rhestr fer Gymraeg i ddysgu mwy am eu gweithiau a’u hysbrydoliaethau.