Côr Ifor Bach yw enillwyr cystadleuaeth gorawl S4C Côr Cymru 2024.

Daeth y côr o fyfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i’r brig yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, gafodd ei darlledu’n fyw ar S4C nos Sul (Mai 12).

Roedd y pum côr wnaeth ennill eu categorïau yn y rownd gyntaf yn cystadlu am dlws Côr Cymru a gwobr o £4,000.

Y pum côr oedd Ysgol Gerdd Ceredigion (enillwyr categori’r Côr Plant), Bechgyn Bro Taf (enillwyr Côr Lleisiau Unfath), Côr Glanaethwy (enillwyr Corau Cymysg), Côr Ieuenctid Môn (enillwyr y Corau Sioe) a Chôr Ifor Bach (enillwyr y Corau Ieuenctid).

Cyflwynodd pob côr raglen amrywiol o ganeuon, gan greu cryn argraff ar y beirniaid rhyngwladol.

Ar y panel beirniadu eleni roedd Grant Llewellyn, yr arweinydd o Gymru; Greg Beardsell, y cawr corawl o Swydd Efrog; a Dr Darius Lim, yr arweinydd byd enwog o Singapôr.

Mae holl raglenni cystadleuaeth Côr Cymru 2024, sy’n cael eu cyflwyno gan Heledd Cynwal a Morgan Jones, ar gael i’w gwylio eto ar S4C Clic a BBC iPlayer.

‘Gwefreiddiol’

Beirniad answyddogol y gystadleuaeth oedd Elin Manahan Thomas, y soprano adnabyddus.

“Fel rheol buasai beirniad yn dweud ’mod i wedi synnu gydag ansawdd y corau sydd wedi bod yn cystadlu, ond y gwir amdani yw nad ydw i wedi synnu o gwbl,” meddai.

“Mae’r corau i gyd wedi bod yn wefreiddiol, a dylai Cymru gyfan fod yn falch o’r trysor corawl sydd yn parhau gyda ni yng Nghymru.

“Llongyfarchiadau enfawr i Gôr Ifor Bach – mae hi wedi bod yn bleser gwrando arnyn nhw yn ein swyno.”

“Mae gwneud y gystadleuaeth yma wedi bod yn un o’r pethau yna sy’n gwthio’r côr,” meddai Eilir Owen Griffiths, arweinydd Côr Ifor Bach.

“Mae’r côr yma dim ond gyda fi ers mis Hydref, ac megis dechrau gobeithio ydi hwn i ni, oherwydd maen nhw wedi gweithio mor, mor galed.”

Llongyfarchiadau

“Llongyfarchiadau i Gôr Ifor Bach ar ennill tlws Côr Cymru 2024,” meddai Hefin Owen, ar ran Rondo Media, cynhyrchydd y gyfres ar gyfer S4C.

“Cafwyd noson ragorol yn y rownd derfynol ac roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn berwi gyda chynnwrf y cystadlu.

“Mae’n braf dweud bod y safon eleni mor uchel ag erioed.

“Un o amcanion y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymreig gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o’r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu.

“A thrwy hynny, gallwn ddangos i’r byd cystal yw’r canu corawl yma yng Nghymru.”