Bydd ffilm newydd yn croniclo taith gymharol anhysbys Dylan Thomas trwy Iran ar aseiniad i ysgrifennu sgript ffilm ar gyfer cwmni olew.

Mae nifer yn gyfarwydd â Dylan Thomas fel bardd Cymreig poblogaidd, a’i waith enwocaf oedd y ‘ddrama i leisiau’, Under Milk Wood, gafodd ei chynhyrchu ychydig cyn ei farwolaeth yn 1953.

Ond mae’n llai adnabyddus am ei waith ffilm.

Yn ystod ei fywyd, ysgrifennodd Dylan Thomas 23 o sgriptiau ffilm, gyda 14 ohonyn nhw’n ffilmiau dogfen adeg rhyfel a ffilmiau propaganda wedi’r rhyfel.

Yn 1951, aeth ei waith ag e i Iran, lle cafodd ei gomisiynu i ysgrifennu ffilm bropaganda ar gyfer yr Anglo-Iranian Oil Company, sef BP bellach – prosiect gafodd ei gwblhau yn y pen draw, ond nid Dylan Thomas ysgrifennodd y sgript ar ei chyfer.

Rôl Dylan Thomas yn hanes olew ac imperialaeth

Wedi’i hadrodd yn ei eiriau ei hun, mae’r ffilm ddogfen archifol, Pouring Water on Troubled Oil, yn gweld Dylan Thomas ar ei daith drwy Iran, gan ddal ei wrthdaro mewnol â’r aseiniad, a’i gyfarfod â’r wlad a’i phobol yn erbyn cefnlen brwydr wrthdrefedigaethol dros wladoli olew.

Mae’r ffilm wedi’i hadeiladu bron yn gyfan gwbl o ffotograffau archifol du a gwyn sydd prin wedi’u gweld cyn heddiw.

Cafodd ei hysgrifennu a’i chyfarwyddo gan Dr Nariman Massoumi, Uwch Ddarlithydd Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Bryste, a’r actor Michael Sheen sydd wedi lleisio’r prosiect.

“Fel llawer o bobol, cefais fy synnu i ddechrau o glywed am ymweliad Dylan Thomas ag Iran, ei fod yno i gynhyrchu ffilm, a hyd yn oed yn fwy o syndod ei bod yn ffilm cyhoeddusrwydd i BP yn ystod yr hyn a oedd yn drobwynt yn hanes y cwmni ac yn y berthynas rhwng y ddwy wlad, pan gafodd olew Iran ei wladoli a’r Prydeinwyr yn cael eu cicio allan,” meddai Dr Nariman Massoumi.

“Pan glywais yn gyntaf am gyfraniad Dylan Thomas at ffilm olew yn Iran, roedd pob mathau o gwestiynau: pam y byddai’r Anglo-Iranian Oil Company yn credu y gallai bardd Cymreig sy’n gysylltiedig â’r chwith, sy’n adnabyddus am ei ymddygiad anrhagweladwy ac yfed gormod o alcohol fod yn ddewis addas i ysgrifennu darn i hyrwyddo menter Brydeinig mewn gwlad Fwslemaidd?

“Beth oedd profiad Dylan Thomas o Iran, beth wnaeth e ddod ar ei draws yno, pwy wnaeth e gwrdd?

“Beth oedd yn ei sgrifennu yn y pen draw?

“Beth ddigwyddodd i’r ffilm, sut aeth popeth i ben?

“Sut ydym ni’n ei osod ef neu ei rôl yn yr hanes hwn o olew ac imperialaeth?”

Astudio llythyrau ac archifau

Yn ystod ei ymchwil ar gyfer y ffilm, fe wnaeth Dr Nariman Massoumi ddarganfod fod Dylan Thomas wedi ysgrifennu am ei anturiaethau yn Iran yn ei lythyrau yn ôl adref ac ar gyfer darllediad gan y BBC Home Service o’r enw Persian Oil ym mis Ebrill 1951.

Roedd ei lythyrau adref yn bersonol, ond roedden nhw’n cynnwys myfyrdodau telynegol, sardonig ac arsylwadau o’r byd y daeth i’w gyfarfod, Cadillacs ac afiechydon, gweithwyr cwmni olew Prydeinig rhwystredig yn rhywiol, ac anghydraddoldebau cymdeithasol amlwg.

Doedd y cyfrifon personol hyn ddim wedi datgelu llawer am y ffilm, felly fe wnaeth Dr Nariman Massoumi ymweld ag archifau’r cwmni olew BP ym Mhrifysgol Warwick i ddarganfod mwy.

Mae’r archif yn dal dogfennau a ffotograffau yn ymwneud â holl hanes y cwmni olew, gan gynnwys y ffilmiau gafodd eu cynhyrchu ganddyn nhw, sy’n cynnwys Persian Story, y ffilm a wnaed yn y pen draw heb gyfranogiad Dylan Thomas, ac a gafodd ei dangos am y tro cyntaf i gynulleidfa o 11,000 o bobol yn Leicester Square yn 1952.

Dan y teitl Pouring Water on Troubled Oil – dyfyniad uniongyrchol gan Dylan Thomas i ddisgrifio natur beryglus y swydd – mae’r ffilm newydd yn cael ei dangos mewn nifer o wyliau ffilm rhyngwladol.

Yn ddiweddar, daeth yn ail yng Ngwobrau Ymchwil Ymarfer Cymdeithas Astudiaethau Ffilm, Teledu a Sgrin Prydain (BAFTSS).

Bydd yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Nghymru ddydd Llun (Mai 20), yng Ngŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, ac yna bydd yn cael ei dangos yng ngŵyl Cinema Rediscovered ym Mryste ym mis Gorffennaf, yn ogystal â gwyliau yn yr Almaen, yr Eidal a Brasil.