Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cynnig cwtogi cytundebau gwaith llawn amser aelodau eu corws i 45 wythnos y flwyddyn, gydag amcangyfrif o doriad cyflog o ryw 15% y flwyddyn.
Yn ôl undeb Equity, sy’n cynrychioli’r gweithwyr, dydyn nhw ddim derbyn bwriad y corff i wneud cytundebau gwaith eu haelodau’n fwy hyblyg.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru hefyd yn bwriadu gwneud y corws yn llai, ac mae Equity yn rhybuddio y byddai hynny’n arwain at broses o ddiswyddiadau gorfodol.
Yn ôl Opera Cenedlaethol Cymru, mae’n rhaid iddyn nhw wneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y cwmni dal yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol.
O ganlyniad i heriau ariannol, maen nhw wedi gorfod gwneud y penderfyniad i gwtogi eu teithiau yn ystod tymor 2024/25 hefyd.
‘Achub Opera Cenedlaethol Cymru’
Dywed Equity fod Opera Cenedlaethol Cymru wedi awgrymu ers peth amser y byddan nhw’n diwygio’r cytundebau maen nhw’n eu cynnig i aelodau’r corws.
Fodd bynnag, roedd yr undeb yn credu eu bod nhw am amddiffyn “rhan ganolog” y corws er gwaetha’r sefyllfa ariannol.
Erbyn hyn, maen nhw’n dweud y byddai’r newidiadau sydd wedi cael eu cynnig yn “tanseilio sicrwydd gwaith” y gweithwyr.
“Mae’r cynigion i gael gwared ar ein statws llawn amser i weld yn un diofal, ac er gwaetha’r cyfyngiadau ariannol ar y cwmni, mi fydd yn y pen draw, rydyn ni’n credu, yn niweidio gallu’r cwmni i recriwtio a chadw aelodau o’r corws yn y dyfodol,” meddai pwyllgor corws Opera Cenedlaethol Cymru.
“Mae ansawdd a gwychder Opera Cenedlaethol Cymru’n rhan hanfodol o dirwedd ddiwylliannol ac enw da Cymru a’r Deyrnas Unedig o amgylch y byd, a chafodd yr enw da ei ennill yn sgil cryfder y corws 80 mlynedd yn ôl.
“Cafodd y corws ei adeiladu o gymunedau Cymru gan nifer o bobol ymrwymedig oedd am weld “eu” cwmni’n llwyddo; brwydr yn erbyn yr ods anodd iawn.
“Bydd y corws yn parhau â’r un ysbryd ac angerdd heddiw, a dyna pam ein bod ni’n gofyn i chi #AchubOCC.”
‘Ystyried pob opsiwn’
Dywed Simon Curtis, Swyddog Cenedlaethol a Rhanbarthol Equity ar gyfer Cymru a de-orllewin Lloegr, fod angen cydnabod effeithiau cadarnhaol yr opera ar gymdeithas.
“Mae’r diwydiannau celfyddydau perfformio ac adloniant yn meithrin datblygiad economaidd lleol, addysg a sgiliau, twristiaeth, llesiant corfforol a meddyliol, yn rhoi cyfleoedd cymdeithasol ac yn cryfhau enw da ein gwlad ledled y byd,” meddai.
Ychwanega Paul W Fleming, Ysgrifennydd Cyffredinol Equity, fod yna “fwlch sylweddol” rhwng barn y gweithlu a’r cyllidwyr ynglŷn â phwy yw cynulleidfa’r opera.
“Rydyn ni’n gwybod y dylai’r opera fod ar gyfer bawb – fel ffurf o gelf a dewis gyrfa,” meddai.
“Mae angen i gynghorau’r celfyddydau yng Nghymru a Lloegr gamu ymlaen i sortio’r argyfwng cyllid, ac mae angen i Opera Cenedlaethol Cymru ailystyried y cynigion annheg hyn.
“Rhaid i’r cyllidwyr a’r rheolwyr gael gwybod: bydd Equity yn ystyried pob opsiwn i gwffio ymosodiad ar dâl ac amodau ein haelodau.”
‘Newidiadau i sicrhau cynaliadwyedd ariannol’
Dywed llefarydd ar ran Opera Cenedlaethol Cymru eu bod nhw’n gorfod gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y cwmni dal yn gynaliadwy yn ariannol yn y dyfodol.
“Rydym yn cynllunio i roi model cyflawni newydd ar waith o’n tymor 2025/2026 ymlaen, er mwyn cynnal ein gweithgarwch a’n heffaith ar y llwyfan ac oddi arno, gan sicrhau yr un pryd ein bod yn gweithredu mor effeithlon â phosib o fewn yr adnoddau sydd ar gael,” meddai’r llefarydd.
“Mae maint y toriadau’n golygu ein bod wedi gorfod cymryd camau pellach er mwyn gwneud arbedion.
“Yn ogystal â’r newidiadau a gyhoeddwyd gennym yn ddiweddar ynghylch taith 2024/2025, rydym wedi agor ffenestr diswyddo gwirfoddol ar gyfer ein cydweithwyr sy’n cyflawni swyddi nad ydynt yn rhai perfformio, ac rydym mewn trafodaethau gydag undebau ynghylch ail-negodi contractau gyda’n Cerddorfa a’n Corws er mwyn arbed costau.
“Mae pob ymdrech yn cael ei wneud i gynorthwyo cydweithwyr drwy’r hyn rydym yn gwybod sy’n broses anodd, ond yn anffodus yn un anochel oherwydd ein sefyllfa ariannol a’r arbedion y mae angen i ni eu gwneud.
“Mae WNO yn cynrychioli Cymru ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Mae hefyd yn creu a chyflwyno prosiectau sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau yn y gymuned. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein dyfodol hirdymor fel cwmni opera cenedlaethol Cymru.”