Mae’n “ddiwrnod trist i ogledd Cymru” wrth i Opera Cenedlaethol Cymru (WNO) gyhoeddi y bydd yn cwtogi Tymor 2024/25 oherwydd toriad i’w cyllid.

O ganlyniad i heriau ariannol cynyddol, mae’r cwmni wedi gorfod gwneud y penderfyniad i beidio teithio i Bristol Hippodrome ym mis Chwefror 2025, na Venue Cymru, Llandudno ym mis Mai 2025.

Mae WNO yn derbyn cyllid Sefydliad Portffolio Cenedlaethol (NPO) gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Arts Council England (ACE).

Fel rhan o’u cyhoeddiadau diweddar ynghylch cyllido, mae WNO wedi derbyn toriad o 35% (£2.2m) yn y cyllid gan ACE, a thoriad o 11.8% yn y cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2024/2025.

Yn ôl yr arweinydd corau, Trystan Lewis, mae hyn yn ganlyniad i ddiffyg ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, ond hefyd i ddiffyg chwilfrydedd am yr opera a genres gwahanol o gerddoriaeth yng Nghymru.

‘Y syniad yma o wlad y gân yn prysur ddiflannu’

Doedd y cyhoeddiad ddim wedi synnu Trystan Lewis gan fod cynulleidfaoedd cynyrchiadau opera Venue Cymru wedi lleihau dros y blynyddoedd.

“Mae hi’n ddiwrnod trist i ogledd Cymru ac i gerddoriaeth yng Nghymru yn gyffredinol,” meddai wrth golwg360

“Dydy o ddim yn fy synnu achos dw i wedi mynd i’r opera yn Llandudno ers fy mod i’n fy arddegau, a dw i’n mynd i’r tair opera yn ddi-ffael, a dw i wedi gweld y cynulleidfaoedd yn edwino dros y blynyddoedd.

“Mae fy mhlant i a phlant ysgolion y fro yn mynd i fod yn colli allan.

“Dw i jest yn teimlo, bellach, bod Cymru wedi mynd yn genedl lle nad oes yna chwilfrydedd.

“Mae yna ambell opera dw i’n mynd iddyn nhw a dw i’n meddwl i’n hun: ‘Wnes i ddim mwynhau honna ond dw i wedi trio’, a dw i’n meddwl mai hynny ydy’r diffyg yn y Cymry bellach – rydan ni wedi mynd yn genedl gul sydd ddim yn gallu gwerthfawrogi genres eraill o gerddoriaeth.

“Ond byswn i’n dweud bod cenedl wâr yn gallu cefnogi a gwerthfawrogi gwahanol fathau o genres.

“Dyna sydd wedi mynd ar goll.

“Mae’r syniad yma o wlad y gân yn prysur ddiflannu, dw i’n meddwl.

“Dw i’n gwisgo fy het fel arweinydd pedwar cymdeithas gorawl ac yn rhoi gweithiau ymlaen efo cerddorfa, a phobol di-Gymraeg a Saeson o dros y ffin sy’n ein cefnogi ni.

“Dydw i ddim yn synnu nad ydy’r WNO yn dod yn ôl y tymor hwn achos mae’n fusnes ac mae’n rhaid i’r peth dalu ar ddiwedd y dydd.”

‘Dyddiau dreng’

Fodd bynnag, mae Trystan yn credu bod diffyg ariannu gan lywodraethau hefyd yn ffactor amlwg yn yr her sy’n wynebu cwmnïau fel Opera Cenedlaethol Cymru.

“Dydyn nhw ddim yn ariannu’r celfyddydau.

Rydan ni’n gwybod am Amgueddfa Cymru rŵan, rydan ni’n gwybod am y Llyfrgell Genedlaethol, rydan ni’n gwybod am y dramâu a theatrau.

“Mae’r celfyddydau dan warchae ar hyn o bryd, ac ar adeg fel hyn, mae angen i lywodraethau fod yn rhoi cefnogaeth ariannol.

“Mae yna doriadau ym mhob man ond mae hi’n ddyddiau dreng i’r celfyddydau yng Nghymru.

“Mae’n frawychus.”

Effaith ar hygyrchedd yr opera

Rhywbeth sy’n poeni Trystan nawr yw’r goblygiadau i hygyrchedd yr opera i bobol y gogledd, gan y bydd rhaid teithio ymhellach gyda chost uwch er mwyn gweld cynhyrchiad.

“Dw i’n gwybod y bysa rhai pobol yn dweud bod opera yn rhywbeth elitaidd a snobyddol, ond mae WNO wedi trio’i orau i gefnogi amrywiaeth.

“Dw i mor drist bod fy mhlant i a phlant eraill rŵan am orfod teithio i Lerpwl, Manceinion neu Gaerdydd ar gyfer yr opera, a cholli allan.

“Prif bwrpas adeiladu Venue Cymru oedd rhoi cartref i Opera Cenedlaethol Cymru berfformio ynddi yng ngogledd Cymru.

“Y gair hygyrchedd sydd yn allweddol.

“Mae yna gymaint o waith wedi’i wneud er mwyn agor y peth allan fel ei fod o’n hygyrch ac yn agored i bawb ddod a phrofi opera, ac mae hynny’n cael ei golli.”

Sicrhau ‘dyfodol hirhoedlog fel cwmni opera’

“Mae ein sefyllfa ariannol newydd yn golygu ein bod yn wynebu’r her o gydbwyso cyllideb lai gan hefyd gynnal safonau artistig er mwyn darparu rhaglen gyffrous o berfformiadau a gweithgareddau ymgysylltu,” meddai Christopher Barron, Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro WNO.

“Mae hyn yn golygu gwneud penderfyniadau anodd, ond nid oes modd osgoi hynny dan yr amgylchiadau.

“Mae’r penderfyniadau wedi cael eu hystyried yn ofalus ac wedi cael eu trafod gyda’n lleoliadau a’r Cynghorau Celfyddydol.

“Er ein bod yn anffodus yn colli wythnos yn Llandudno ym mis Mai, rydym ni’n falch ein bod yn dal i ymweld â Venue Cymru yn yr Hydref gyda’n cynhyrchiad newydd o Rigoletto a gyda Suor Angelica a Gianni Schicchi, yn ogystal â’n cyngerdd newydd a phoblogaidd, Ffefrynnau Opera.

“Rydym ni hefyd yn parhau i weithio ledled Cymru gyda’n rhaglen o gyngherddau a’n gwaith ymgysylltu cymunedol a fydd yn cynnwys prosiect creadigol gydag ysgolion ar draws Conwy yn 2024/2025.

“Mae WNO yn cynrychioli Cymru ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol yn ogystal â chreu a chyflawni prosiectau sy’n effeithio’n gadarnhaol ar gymunedau.

“Rydym ni wedi ymrwymo i barhau i gyflawni’r gwaith hwn a sicrhau ein dyfodol hirhoedlog fel cwmni opera cenedlaethol Cymru.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.