Dydy Llywodraeth Cymru ddim yn “deall diwylliant na chwaith yn malio am ddiwylliant”, meddai aelod o Blaid Cymru wedi i’r Prif Weinidog amddiffyn toriadau i amgueddfa genedlaethol Cymru.

Yn ystod cynhadledd i’r wasg heddiw (dydd Llun, Ebrill 15), ni wnaeth Vaughan Gething gynnig unrhyw gymorth brys i Amgueddfa Cymru.

Daw hyn wedi i’r amgueddfa rhybuddio y gallai eu prif safle yng Nghaerdydd gau ac y bydd o leiaf 90 o aelodau o staff yn colli eu gwaith yn dilyn toriad i’w cyllid.

Dywedodd Vaughan Gething bod hyn o ganlyniad i wneud y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn flaenoriaeth wedi degawd o lymder.

‘Cof ein cenedl’

Mae’r sefydliad wedi derbyn toriad o £3m i’w grant, ond gan eu bod yn parhau i wneud diffyg o £1.5m yn flynyddol, bydd cyfanswm y bwlch yn cyrraedd £4.5m erbyn diwedd Mawrth.

Un sydd wedi codi pryderon dros ddyfodol yr amgueddfa yn y Senedd ers tro yw Heledd Fychan.

“Dw i’n bryderus dros ben,” meddai wrth golwg360.

“Dw i wedi bod yn codi’r pryderon hyn yn y Senedd ers 2021, a dydy’r problemau yma heb ddigwydd dros nos.

“Mae’r llywodraeth wedi bod yn llwyr ymwybodol o’r sefyllfa.

“Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt rŵan lle mae yna bobol eisoes wedi gadael swyddi sydd yn angenrheidiol ar gyfer yr amgueddfa, a gallwn ni ddychmygu bod Amgueddfa Genedlaethol Cymru mewn perygl o gau a bod y llywodraeth i’w weld yn hapus efo hynny, a ddim yn fodlon ymyrryd mewn unrhyw ffordd.

“Beth rydyn ni’n ei weld ydy’r llywodraeth yn malio dim am ein diwylliant nag ein sefydliadau cenedlaethol am ddegawd a mwy.

“Cof ein cenedl ni ydy’r casgliadau cenedlaethol a phobol Cymru sy’n berchen ar y casgliadau, nid y sefydliadau ac nid Llywodraeth Cymru.

“Mae o’n fy nhristau i yn fawr nad ydy Llywodraeth Cymru i’w weld yn deall diwylliant, na chwaith yn malio am ddiwylliant na chof ein cenedl.”

Angen strategaeth i ddiogelu sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol

Mae Heledd Fychan nawr yn galw am strategaeth er mwyn diogelu sefydliadau o’r fath ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

“O ran cenedlaethau’r dyfodol, mae yna ddyletswydd arnom ni gyd i sicrhau bod ein casgliadau cenedlaethol ni yn ddiogel, ond hefyd eu bod nhw’n cael eu defnyddio.

“Mae gennym ni yng Nghymru Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol ac mi ddylai hynny olygu nad ydym ni’n gweithredu portffolio yn erbyn portffolio, ond yn defnyddio’r ffaith ein bod ni’n gallu manteisio ar y casgliadau cenedlaethol er mwyn gwella iechyd pobol, er mwyn addysgu, er mwyn yr economi…

“Yr hyn dw i’n meddwl y dylai fod wedi digwydd ydy bod gennym ni strategaeth er mwyn ariannu ein sefydliadau diwylliannol a chelfyddydol yn iawn, i sicrhau eu bod nhw’n gallu gweithredu mewn ffordd sydd yn manteisio Cymru hefyd.

“Mae yna fanteision economaidd yn ogystal ag o ran diwylliant y genedl.

“Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi arian ychwanegol i’r Amgueddfa Genedlaethol i ariannu rhai o’r diswyddiadau.

“Byddwn i wedi hoffi gweld yr arian – yn hytrach na mynd at ddiswyddiadau – yn cael ei rhoi i ddiogelu swyddi ac i’w wario ar adeilad sydd fawr angen buddsoddiad.”

Vaughan Gething yn amddiffyn y toriadau

“Pan wnaethom nodi yn ein cyllideb ein blaenoriaethau y byddem yn blaenoriaethu iechyd a gofal cymdeithasol a llywodraeth leol, roedd hynny’n golygu bod dewisiadau llawer anoddach i’w gwneud ar draws ystod y llywodraeth,” meddai Vaughan Gething wrth siarad yng Ngholeg Gwent yng Nglyn Ebwy heddiw.

“Os mai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yw ein blaenoriaeth mewn gwirionedd ac rydym yn mynd i fuddsoddi ynddo, ni allwch wneud hynny heb fod canlyniadau ar gyfer pob maes arall o fywyd cyhoeddus.

“Hoffwn weld dyfodol lle mae’r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn gallu gwneud y gwaith sydd ei angen ar yr adeilad a darparu gwasanaeth rhagorol.”

“Mae ein cyrff hyd braich wedi gweithio’n gyflym i asesu effaith eu dyraniad cyllidebol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym yn ddiolchgar iddynt am y gwaith pwysig y maent yn ei wneud a’r manteision y mae hyn yn cynnig i bobol Cymru.

“Rydyn ni mewn trafodaethau am Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

“Rydym wedi bod yn glir bod ein cyllideb hyd at £700m yn llai mewn termau real na phan gafodd ei gosod yn 2021 ac rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd dros ben.”

Amgueddfa Genedlaethol Cymru

Manon Steffan Ros

Does ganddi mo’r arian i roi’r gwres ymlaen. Gymaint gwell ydi rhoi’r babi yn ei siwt gynnes a dod â fo yma

Cyhuddo Llywodraeth Cymru o “droi llygad ddall” ar “argyfwng” y casgliadau cenedlaethol

Bydd Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu i warchod y sector diwylliant mewn dadl yn y Senedd heddiw (Mawrth 20)

Protestio yn erbyn toriadau “echrydus” sy’n “bygwth” sefydliadau diwylliannol

Cadi Dafydd

“Pan ti’n torri mwy, beth sydd ar ôl i’w dorri?” medd cynrychiolydd undeb PCS am doriadau yn y Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Cymru