Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam “yn ôl lle maen nhw’n haeddu bod” ar ôl cael dyrchafiad dros y penwythnos, medd cefnogwyr.
Fe wnaeth y tîm sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol ddydd Sadwrn (Ebrill 13).
Yn dilyn buddugoliaeth o 6-0 yn erbyn Forest Green Rovers, a gan fod Milton Keynes Dons a Barrow wedi colli eu gemau brynhawn Sadwrn, bydd Wrecsam yn cael chwarae yn Adran Un Cynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Bydd Wrecsam yn chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.
Yn ôl cefnogwyr y clwb, i’r perchnogion, y sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, mae’r diolch, yn ogystal â’r chwaraewyr, am ddod â buddsoddiad i’r clwb.
Llygaid ar ddyrchafiad arall
Mae dyrchafiad y clwb yn newyddion “andros o dda” meddai Meic Parry, cefnogwr Wrecsam a chynhyrchydd y podlediad poblogaidd, The Crossbow Killer.
“Mae o’n newyddion arbennig,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r momentwm efo nhw ac maen nhw wedi arwyddo chwaraewyr da dros y tair blynedd diwethaf.
“Ond yn amlwg mae yna elfen o fuddsoddi wedi bod ac mae llwyddiant wedi dod wedyn.
“Maen nhw wedi cael buddsoddiad anghyffredin o fawr o gymharu efo clybiau o’u cwmpas nhw.
“Yn amlwg, mae o’n fusnes anodd i gynnal clybiau rŵan.
“Mae’r pres yn fawr ond fedra’r pres fynd yn syth os dydy llwyddiant ddim yn dod.
“Mae hi’n hawdd i glwb fynd i’r wal ond mae’r pres, y sylw, yr hype a’r ffaith eu bod nhw’n llenwi’r stadiwm bob wythnos rŵan i gyd yn help.”
Yn ôl Meic, mae’r clwb yn llawn haeddiannol o’r dyrchafiad ac mae ei lygaid o ar y dyrchafiad nesaf yn barod.
“Fan hyn oedd safon Wrecsam tan tua ugain mlynedd yn ôl, felly yn draddodiadol, maen nhw yn ôl yn lle maen nhw wedi bod ers blynyddoedd.
“Dyma le mae clwb fel Wrecsam yn haeddu bod, o leiaf, efo hanes a maint y clwb.
“Y gobaith ydy mynd i fyny eto – dyna’r uchelgais – ond byswn i’n gobeithio bod y clwb yn aros yna ac yn gyfforddus yna a bod nhw jest yn mynd ymlaen rŵan.
“Bydd y buddsoddiad yn parhau a gallan nhw gadw’r chwaraewyr ac arwyddo rhai newydd hefyd.
“Y gobaith ydy dyrchafiad arall yn syth, os ddim, yn y ddwy neu dair blynedd nesaf.”
‘Angen cryfhau lot o safleoedd’
Mae Ifor Owen, sy’n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Wrecsam, yn un o griw Cochion De Cymru, grŵp o gefnogwyr Wrecsam sy’n teithio o’r de i wylio gemau’r clwb.
Heb y perchnogion presennol, dydy Ifor ddim yn teimlo y byddai’r dyrchafiad wedi bod yn bosib.
“Dw i’n meddwl yr oedden ni wedi mynd bach yn sownd cyn iddyn nhw [Ryan a Rob] gyrraedd.
“Roedd y clwb yn talu ffordd ond roedd angen rhyw fath o ysbrydoliaeth, ac mae’r ffaith eu bod nhw wedi dod i mewn wedi denu torfeydd a chefnogwyr newydd.
“Dw i’n amau na fyddai hyn wedi digwydd hebddyn nhw.”
Er mwyn llwyddo yn Adran Un, mae angen i’r clwb arwyddo chwaraewyr newydd o safon, meddai Ifor.
“Ond mae yna fwy o naid efo’r dyrchafiad yma na’r llynedd.
“Er bod ganddyn nhw chwaraewyr da, dw i’n meddwl y bydd rhaid arwyddo chwaraewyr gwell er mwyn cryfhau’r garfan.
“Byswn i’n hoffi ein gweld ni’n arwyddo Langstaff o Nottingham County.
“Mae o wedi sgorio eleni ac mae o’n dîm sydd heb wneud mor dda â hynny, a dw i’n meddwl y bysa fo’n cynnig rhywbeth gwahanol i ni.
“Mae angen cryfhau lot o safleoedd gwahanol.
“Mae’r gôl geidwad presennol sydd wedi chwarae i ni’r tymor yma – mae ei gytundeb o’n dod i ben, a bysa’n dda gallu ei arwyddo fo am dymor arall hefyd.
“Mae o wedi cael tymor da iawn.”