Mae gobeithion Osian Pryce o ennill Pencampwriaeth Ralio Prydain yn fyw unwaith eto, yn dilyn buddugoliaethau mewn dau o Gymalau Dyffryn Hafren Rallynuts dros y penwythnos.

Daeth llwyddiant i’r Cymro a’i gyd-yrrwr Rhodri Evans yn eu Ford Fiesta Rally2.

Dyma’r tro cyntaf i Evans ennill rali fel cyd-yrrwr, er iddo fe ennill rali fel gyrrwr yn y gorffennol – gyda Pryce yn gyd-yrrwr iddo.

Pryce gipiodd yr amser cyflymaf ar y graean yn Sarnau, cyn symud o fod 3.2 eiliad ar ei hôl hi i fod 0.4 eiliad ar y blaen wrth gipio’r amser cyflymaf Tarennig hefyd.

Gosododd e’r amser cyflymaf ddwywaith yn rhagor cyn gorffen ar Faes y Sioe yn Llanelwedd gyda blaenoriaeth o 11.7 eiliad.

Yng nghanol y gwynt a’r glaw, cadwodd Pryce at ei deiars meddal, ac fe dalodd ar ei ganfed mewn cymalau llithrig wrth iddo ymestyn ei fantais i 14 eiliad ar ôl mynd drwy Sarnau.

Erbyn i Pryce ac Evans gipio’r fuddugoliaeth yn Llandrindod, roedd ganddyn nhw fantais o ugain eiliad.

Dyma’r tro cyntaf i Osian Pryce ennill ym Mhencampwriaeth Ralio Prydain ers gorffen ar y brig yn Rali Swydd Efrog yn 2022.

‘Haws dweud na gwneud’

Yn ôl Osian Pryce, mae’n “haws dweud na gwneud” pan ddaw at ennill rali.

“Roeddwn i’n eithaf hapus ar ôl y cymal cyntaf, ac er ein bod ni ar ei hôl hi, fe berfformion ni’n dda ac roeddwn i’n gwybod fod rhagor i ddod gan y car,” meddai.

“Fe wnaethon ni ambell newid wrth osod [y car] yn ystod y dydd, ac fe wnaeth hynny helpu.

“Mae’r car wedi bod yn ddi-fai o safbwynt mecanyddol, ac yn sicr mae mwy i ddod ganddo fe yn y dyfodol.

“Roedd hi’n rali wych, gyda chymalau gwych a heriol iawn.

“Ar ôl ymddeol yn y rownd gyntaf, roedd gwir angen y canlyniad hwn arnon ni i gadw ein gobeithion yn fyw yn y bencampwriaeth, felly gadewch i ni weld lle’r awn ni o fan hyn.”