Mae tîm pêl-droed Wrecsam wedi ennill eu hail ddyrchafiad yn olynol, gan sicrhau y byddan nhw’n chwarae yn yr Adran Gyntaf y tymor nesaf.
Fe wnaethon nhw sicrhau’r dyrchafiad gyda buddugoliaeth swmpus o 6-0 dros Forest Green Rovers, sydd ar fin gostwng o’r Gynghrair Bêl-droed.
Sgoriodd Paul Mullin ddwy gôl i ychwanegu at gôl Elliot Lee a gôl Ryan Innis i’w rwyd ei hun fel bod y tîm Cymreig ar y blaen o 4-0 ar yr egwyl.
Daeth dwy arall gan Ryan Barnett a Jack Marriott yn yr ail hanner i gau pen y mwdwl ar y fuddugoliaeth, wrth iddyn nhw ddychwelyd i’r Adran Gyntaf am y tro cyntaf ers 2004.
Mae breuddwyd y perchnogion Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn parhau, a bydd cryn ddathlu yn y ddinas dros y dyddiau i ddod.
“DYRCHAFIAD!!!! Dyma sy’n digwydd pan ydych chi’n buddsoddi mewn chwaraeon Cymreig a Chymru – dilynwch esiampl Rob McElhenney a Ryan Reynolds,” meddai’r newyddiadurwraig Maxine Hughes, y Gymraes sydd wedi cydweithio’n agos gyda’r actorion a pherchnogion y clwb.