Morgannwg a Swydd Derby yn gyfartal

Y gêm gyntaf yng Nghaerdydd, a Morgannwg yn dal i geisio buddugoliaeth gynta’r tymor

Alun Rhys Chivers
gan Alun Rhys Chivers
golwg360

Sgorfwrdd

Mae Swydd Derby wedi enwi dau Gymro yn y garfan i herio Morgannwg yn y gêm griced gyntaf yng Nghaerdydd yn 2024.

Y gogleddwr amryddawn David Lloyd, oedd wedi gadael y sir Gymreig ar ddiwedd y tymor diwethaf, yw capten y Saeson, tra bod y batiwr Aneurin Donald hefyd wedi’i enwi ymhlith yr 13 chwaraewr yn y garfan.

Dydy’r un ohonyn nhw wedi chwarae gêm dosbarth cyntaf i’r sir eto, a wyneb newydd arall yn y garfan yw Blair Tickner, y bowliwr cyflym o Seland Newydd.

Un arall sydd â chysylltiadau Cymreig yw’r hanner Cymro Luis Reece, fydd yn gobeithio taro’i pumed ac efallai ei chweched canred yn olynol yn erbyn Morgannwg, ar ôl ei record o bartneriaeth o 360 gyda Harry Came y tymor diwethaf.

Bydd Morgannwg yn gobeithio adeiladu ar eu gêm gyfartal yn erbyn Middlesex yng ngêm gynta’r tymor yn Lord’s, pan sgoriodd y capten newydd Sam Northeast 335 heb fod allan, gan dorri’r record am y sgôr gorau erioed ar y cae hanesyddol yn Llundain, gan ragori ar 333 Graham Gooch dros Loegr yn erbyn India yn 1990.

Tarodd Billy Root a Kiran Carlson hanner canred yr un yn y gêm hefyd, gyda Colin Ingram hefyd yn taro canred yn ystod ei bartneriaeth hanesyddol o 299 gyda Northeast am y drydedd wiced.

Dydy’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Harry Podmore ddim ar gael oherwydd anafiadau, tra bod y batiwr agoriadol Eddie Byrom hefyd wedi’i anafu.

Mae’r bowliwr cyflym Craig Miles, oedd wedi ymuno ar fenthyg am dair gêm, wedi dychwelyd i Swydd Warwick ar ôl un gêm yn unig, ac felly mae’r chwaraewr amryddawn Andy Gorvin wedi’i alw i’r garfan yn ei le.

Mae Morgannwg yn ail yn yr ail adran ar ôl y gêm gyntaf.

Aneurin Donald

Gemau’r gorffennol

Gêm gyfartal gafodd Morgannwg a Swydd Derby yng Nghaerdydd y tymor diwethaf, a hynny o ganlyniad i’r glaw yn ystod wythnos olaf mis Medi.

Sgoriodd Colin Ingram 82, tra bod Luis Reece wedi taro canred yn y naill fatiad a’r llall am yr ail dro yn olynol yn erbyn y sir Gymreig – y tro cyntaf i unrhyw fatiwr sgorio pedwar canred yn olynol yn erbyn yr un gwrthwynebwyr.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2022, pan sgoriodd David Lloyd 313 heb fod allan wrth i Forgannwg sgorio 550 am bump cyn cau’r batiad.

Cipiodd Ajaz Patel, troellwr llaw chwith Seland Newydd, bum wiced i Forgannwg wrth i Swydd Derby orfod canlyn ymlaen, cyn i Wayne Madsen a Leus du Plooy sefydlogi eu tîm gyda phartneriaeth allweddol o 128 mewn 37.5 pelawd.

Carfan Morgannwg: S Northeast (capten), K Carlson, C Cooke, M Crane, Zain ul Hassan, B Root, C Ingram, D Douthwaite, J Harris, A Gorvin, Mir Hamza, J McIlroy, A Tribe

Carfan Swydd Derby: D Lloyd (capten), H Came, M Lamb, L Reece, A Donald, B Tickner, A Thomson, J Morley, B Guest, Z Chappell, S Conners, A Dal, W Madsen

17:12

CANLYNIAD – Gêm gyfartal. Swydd Derby 225-3, wrth iddyn nhw gwrso 401 i ennill. 

Luis Reece 91 heb fod allan. Brooke Guest 72 heb fod allan.

Ymlaen at Northampton ddiwedd yr wythnos wrth i Forgannwg geisio buddugoliaeth gynta’r tymor.

15:44

Amser te – Swydd Derby 185 am dair, yn cwrso 401 i ennill. Un sesiwn i ddod.

13:49

Cinio – Swydd Derby 128-3, ond rhagor o law ar hyn o bryd

10:03

DIWRNOD 4

361 arall sydd ei angen ar yr ymwelwyr ar y diwrnod olaf. Gawn ni weld a fydd y tywydd drwg yn cadw draw!

18:50

DIWEDD

Swydd Derby 40 am un, yn cwrso 401 i ennill.

96 pelawd yn weddill o’r ornest ar y diwrnod olaf fory.

18:24

Pelawd yn unig sydd wedi’i cholli. 10.1 pelawd sydd yn weddill heno.

18:06

GOLAU GWAEL

Swydd Derby 13 am un. 401 yw’r nod. Dim ond 96 pelawd sy’n gallu cael eu bowlio ar y diwrnod olaf, felly bydd yr ymwelwyr yn colli pelawdau wrth gwrso’r nod sylweddol yma os na fydd rhagor o griced yn bosib heno.

17:56

WICED

Harry Came allan – James Harris wedi taro’i goes o flaen y wiced am 3. Swydd Derby 7-1.

17:30

Morgannwg wedi cau’r batiad yn ystod y toriad. 361 am saith. Cooke 126 heb fod allan, Harris 61 heb fod allan. Nod o 401 gan Swydd Derby i ennill. 16 pelawd yn weddill heno.

371 yw sgôr buddugol gorau erioed Swydd Derby mewn gemau dosbarth cyntaf – tipyn o her o’u blaenau, felly. 285 yw eu sgôr buddugol gorau erioed yn erbyn Morgannwg… (ystadegyn gan David Griffin o Swydd Derby).

17:18

GLAW

Y chwaraewyr yn gadael y cae am y tro. Morgannwg 361 am saith, ar y blaen o 400. A welwn ni’r tîm cartref yn cau’r batiad yn ystod y toriad yma, tybed? Cawod yw hon, mae’n debyg…