Mae bachwr Cymru a’r Scarlets wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol o chwarae rygbi.

Yn ystod ei yrfa, enillodd Ken Owens 91 cap dros Gymru, a chwarae i’r Scarlets 270 o weithiau dros ugain mlynedd.

Ni chwaraeodd Ken Owens, sy’n 37 oed, yng Nghwpan y Byd yn Ffrainc y llynedd yn sgil anaf i’w gefn, ac ni wnaeth ymddangosiad yn y Chwe Gwlad eleni chwaith.

Chwaraeodd bum gêm i’r Llewod ar ddwy daith, gan ennill pedair Pencampwriaeth Chwe Gwlad gyda Chymru.

Bu’n gapten ar Gymru yn ystod y Chwe Gwlad y llynedd, a chwaraeodd am y tro diwethaf i’r Scarlets flwyddyn yn ôl cyn cael ei boenydio gan broblemau cefn.

“Mae wedi bod yn gyfnod anodd yn gwylio o ochr y cae, ond mae’r amser wedi dod i fi wrando ar gyngor meddygol a rhoi’r gorau i’r yrfa sydd wedi rhoi cymaint i fi ac ymddeol o rygbi,” meddai wrth gyhoeddi ei ymddeoliad.

“Petai’r dewis wedi bod yn fy nwylo i bydden i wedi cael y cyfle i chwarae un gêm arall i Gymru, i’r Scarlets ac, wrth gwrs, un gêm arall i Glwb yr Athletic yng Nghaerfyrddin.

“Bydden i wedi joio dweud hwyl fawr mewn crys rygbi, ac yn bwysicach, efallai, diolch i bawb.

“Ond dw i wedi bod yn ffodus tu hwnt i gael gyrfa mae pob plentyn yng Nghymru yn breuddwydio amdano.”

‘Anrhydedd’

Dywed bod ei ddiolch yn mynd i’w deulu, ei wraig a’i feibion, ynghyd â’i glybiau, am y cyfleoedd a’r anogaeth y maen nhw wedi’i roi iddo.

“Fe wnaeth y Scarlets gredu ynof i ugain mlynedd yn ôl, a dw i’n gobeithio fy mod i wedi talu’r ffydd wnaethoch chi ddangos ynof i’n ôl dros y blynyddoedd,” meddai.

“Bydden i byth wedi credu y bydden i’n gwisgo’r crys dros 270 o weithiau, diolch am y cyfle.

“Mae chwarae 91 o weithiau i Gymru wedi bod yn anrhydedd na fedra i fyth ei ddisgrifio, ac yna i dynnu crys y Llewod ymlaen, does dim geiriau.

“Mae’r filltir sgwâr mor bwysig i fi ac mae gweld yr un angerdd yn wynebau ffrindiau, teulu ac, wrth gwrs, y cefnogwyr wrth i fi gynrychioli’r clwb a Chymru wedi bod yn anrhydedd mawr.

“Dw i’n mynd i gymryd amser i edrych yn ôl ar yr atgofion cyn penderfynu beth i wneud nesaf.

“Os alla i roi canran yn ôl o’r hyn dw i wedi’i gael gan y gymuned a’r gêm, fydda i’n ddyn prowd iawn.”

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae rhestr hir o chwaraewyr Cymru wedi ymddeol, gan gynnwys Dan Biggar, George North, Leigh Halfpenny, Justin Tipuric ac Alun Wyn Jones.