Dros y penwythnos bydd cannoedd o fenywod yn rhedeg 31 milltir ym Mhen Llŷn.
Yn ôl y trefnwyr, y She Ultra ddydd Sadwrn (Ebrill 20), ydy’r marathon ultra elusennol cyntaf ar gyfer menywod yn unig yng ngwledydd Prydain.
Gall y 550 o fenywod fydd yn rhedeg gymryd faint bynnag o amser ag y maen nhw eisiau i gwblhau’r ras, ac mae’n debyg y bydd rhai yn cerdded y pellter o 50km hefyd.
Fe wnaeth Huw Williams, sy’n rhedwr pellter hir, drefnu’r ultra er mwyn dangos ei werthfawrogiad am y gofal gafodd gan y menywod o’i gwmpas pan gafodd ddiagnosis o ganser yn ystod y pandemig.
‘Menywod yn rhoi hwb i’w gilydd’
Un fydd yn rhedeg ddydd Sadwrn ydy Non Jones o Dremadog, sy’n aelod o Glwb Rhedwyr Hebog ym Mhorthmadog.
Dyma fydd y tro cyntaf iddi redeg marathon, heb sôn am farathon ultra, ond mae hi’n pwysleisio bod y gefnogaeth gan fenywod eraill am fod o gymorth.
“Mae o’n braf meddwl bod yna gymaint o ferched yn mynd i’w wneud o efo’i gilydd, a chefnogi a rhoi hwb i’n gilydd,” meddai Non, sy’n 26 oed, wrth gowlg360.
“Dw i’n siŵr fydd yna lot o siarad ar y daith, a dw i’n edrych ymlaen at hynny.”
Roedd Non yn awyddus i roi her i’w hun, ac mae nifer o fenywod o’r clwb rhedeg yn cymryd rhan hefyd.
“Mae o lot haws pan mae yna griw da ohonom ni’n rhedeg!
“Ond mae’n braf nad oes cut-off time a dim pwysau i redeg o i gyd, a phawb yn gallu gwneud yn eu hamser nhw ar y diwrnod.”
‘Annog merched eraill’
Mae Non Jones wedi bod yn cynyddu’i phellter wythnosol fesul dipyn ers mis Ionawr er mwyn hyfforddi, wedi iddi gael gafael go iawn ar redeg yn ystod y cyfnodau clo.
“Dw i cael cyfle i wneud runs hirach efo’r criw Hebog dros yr wythnosau diwethaf o gwmpas Eifionydd – mae lle rydyn ni’n byw yn helpu efo hyfforddi ac mae yna gymaint o ddewis o lefydd i fynd – ond heb roi pwysau ar fy hun chwaith a mwynhau’r rhedeg,” eglura Non, gan ddweud ei bod hi wedi bod yn nofio a cherdded mwy i gryfhau hefyd.
Ychwanega ei bod hi’n meddwl bod digwyddiadau fel y She Ultra, a llwyddiant diweddar Jasmin Paris fel y ddynes gyntaf i gwblhau ras anodd Barkley Mountains yn yr Unol Daleithiau, am roi’r hyder i ferched a’u hannog i fynd ati i wthio’u hunain.
“Dw i yn meddwl bod o’n sicr yn help i ferched allu dweud wrth eu hunain eu bod nhw’n gallu gwneud o!”
‘Cael gwared ar rwystrau’
Un o Lydaw ydy Sélène Boixal yn wreiddiol, ond ers symud i bentref Llan Ffestiniog, mae rhedeg wedi bod yn ffordd iddi gyfarfod criw newydd a dod i adnabod mwy ar ogledd orllewin Cymru.
Dechreuodd redeg lai na dwy flynedd yn ôl, gan ddechrau rasio’r llynedd er mwyn cael ysgogiad i redeg. Rhedodd ei hanner marathon cyntaf ym mis Mai y llynedd, a chwblhau Marathon Eryri fis Hydref.
“Fedrwch chi ddweud fy mod i wedi dal y byg wedyn,” meddai wrth golwg360.
Ar ôl cael gwybod am y She Ultra drwy Glwb Rhedwyr Hebog, penderfynodd mai dyna fyddai ei her nesaf.
“Mae’r digwyddiad hefyd yn ffordd o godi arian at fenywod sydd gan ganser, sydd gan anwyliaid gyda chanser, neu sydd wedi colli rhywun iddo, felly mae’n achos da iawn.
“Dw i erioed wedi gwneud dim byd fel hyn, ac mae yna dipyn o gyffro.
“Maen nhw wedi meddwl am bob dim i wneud y ras mor hygyrch â phosib i fenywod, sydd dal yn lleiafrif bychan mewn rhedeg pellteroedd ultra.
“Mae pethau bach fel toiledau ychwanegol a chawodydd, y cynnig i gael bagiau glanweithdra wedi’u danfon i fannau penodol ar y daith, tîm o fenywod yn unig ar y cwrs ac ati yn gwneud gwahaniaeth i nifer.
“Maen nhw wedi gweithio’n galed iawn i gael gwared ar lot o’r rhwystrau allai stopio menywod rhag cymryd rhan mewn rasys ultra. Mae’n rhywbeth dw i’n falch iawn o’i gefnogi.”
Ychwanega Sélène ei bod hi’n edrych ymlaen yn arw at ddydd Sadwrn.
“Beth bynnag sy’n digwydd dylai fod yn ddiwrnod allan da efo’r genod.”