Mae Clwb Criced Morgannwg wedi cyhoeddi y bydd ganddyn nhw dîm Haen 1 i fenywod erbyn 2027.

Yn ôl y clwb, bydd sefydlu’r tîm newydd yn golygu y gallan nhw wireddu’r nod o sicrhau mai criced yw’r brif gamp i fenywod yng Nghymru yn y dyfodol.

Dywed Dan Cherry, Prif Weithredwr Clwb Criced Morgannwg, eu bod nhw “wedi cyffroi’n fawr iawn” o gael tîm proffesiynol i fenywod yn y brifddinas yn rhan o’r gystadleuaeth newydd sydd wedi’i sefydlu gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB).

“Rydyn ni’n anelu at weld criced yn dod yn brif gamp menywod yng Nghymru, ac yn falch iawn fod Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) wedi cydnabod yr ymroddiad yma,” meddai.

Dywed y bydd y clwb yn parhau â’u “gwaith sylweddol” i ddatblygu gêm y menywod a’r merched ymhellach, a’u bod nhw’n “ddiolchgar iawn” i’r ECB am yr arian ychwanegol i gael cynnal eu llwybrau at y dyfodol fel eu bod nhw’n barod i fod yn dîm Haen 1 ymhen tair blynedd.

Mae’r clwb hefyd wedi diolch i Lywodraeth Cymru, Criced Cymru, Chwaraeon Cymru a busnesau Cymru sydd wedi cefnogi’r cais.

‘Eiliad fwyaf balch fy ngyrfa’

“Gweld Morgannwg yn cael tîm criced Haen 1 i fenywod yw eiliad fwyaf balch fy ngyrfa hyfforddi dros ugain mlynedd hyd yn hyn,” meddai Aimee Rees, Pennaeth Criced Menywod a Merched Morgannwg.

“Byddwn ni’n cofleidio’r cyfle hwn ac yn gwneud y genedl gyfan yn falch.

“Bydd gallu cynnig y cyfle i fenywod a merched dros Gymru gyfan i ddatblygu eu sgiliau a symud ar hyd y llwybr sy’n llwyr weithredol i gynrychioli tîm criced menywod proffesiynol, yn eu gwlad eu hunain, yn drawsnewidiol i griced menywod yng Nghymru.

“Mae hwn yn gam enfawr sy’n ychwanegu at hanes hir a chyfoethog criced menywod yng Nghymru.

“Nid sir yn unig mae Morgannwg yn ei chynrychioli, ond rydym hefyd yn cynrychioli gwlad, a bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi’r cyfle gorau i ferched yng Nghymru fod yn gricedwyr proffesiynol ar y lefel uchaf.”

Mae disgwyl i ragor o dimau ennill statws proffesiynol erbyn 2029 hefyd.

Chwaraewr newydd ar fenthyg

Yn y cyfamser, mae tîm y dynion wedi denu Brad Wheal, bowliwr cyflym o’r Alban, ar fenthyg o Hampshire am gyfnod byr.

Bydd yn cael ei gynnwys yn y garfan i herio Swydd Northampton yn Northampton yn y Bencampwriaeth ddydd Gwener (Ebrill 19).

Mae e wedi cipio 109 o wicedi dosbarth cyntaf, ond mewn gemau undydd mae e wedi serennu’n bennaf, gan ennill cystadleuaeth ugain pelawd y Vitality Blast gyda Hampshire a chwarae i dîm London Spirit yn y Can Pelen.

Mae nifer o fowlwyr cyflym Morgannwg wedi’u hanafu ar hyn o bryd, gan gynnwys Timm van der Gugten, Jamie McIlroy a Harry Podmore.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd am ba hyd y bydd Brad Wheal yn aros gyda Morgannwg, ac fe fydd y clwb yn monitro’r sefyllfa fesul gêm.

Ymunodd Craig Miles ar fenthyg o Swydd Warwick yn ddiweddar, ac er bod disgwyl iddo fe fod ar gael am dair gêm, fe ddychwelodd e atyn nhw ar ôl ei gêm gyntaf gyda’r sir Gymreig.

Yn ôl Grant Bradburn, Prif Hyfforddwr Morgannwg, mae sefyllfa’r anafiadau’n destun “rhwystredigaeth” i’r sir.

Mae e a’i gynorthwy-ydd Toby Bailey yn adnabod Brad Wheal o gyfnod y tri ohonyn nhw gyda thîm yr Alban.

Dywed y chwaraewr ei bod hi’n “fraint” cael chwarae i Forgannwg.