Mae awgrym fod Joe Allen wedi chwarae ei gêm bêl-droed olaf yng nghrys Abertawe.

Daw hyn ar ôl i Luke Williams, rheolwr Abertawe, ddweud bod amheuon na fydd y chwaraewr canol cae yn chwarae eto y tymor hwn oherwydd anaf.

Bydd ei gytundeb yn dod i ben yn yr haf, a dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd yr Elyrch yn cynnig cytundeb newydd iddo fe.

“Mae Joe yn dod yn ei flaen yn dda,” meddai’r rheolwr.

“Mae ganddo fe dipyn o ffordd o’i flaen i gael mynd allan ar y cae, ond mae’n mynd yn ôl y cynllun.

“Mae’n debygol dros ben fod ei dymor e ar ben, felly mae angen i ni wneud y peth gorau er mwyn Joe, a’i gael e’n ôl yn y siâp gorau.”

Yn y cyfamser, mae disgwyl i’r amddiffynnwr canol Nathan Wood ddychwelyd i herio Huddersfield oddi cartref ddydd Sadwrn (Ebrill 20).

Doedd e ddim wedi chwarae yn erbyn Stoke na Rotherham.

Does dim disgwyl chwaith i Kyle Naughton na Przemyslaw Placheta chwarae am weddill y tymor, ac mae Josh Ginnelly yn paratoi i ddychwelyd ar ddechrau’r tymor nesaf ar ôl anaf hirdymor.